THE latest community news from Lampeter
Cylch Cinio
CYNHALIWYD yr ail gyfarfod ar 7 Tachwedd yng nghlwb rygbi’r dref, dan lywyddiaeth Haydn Richards.
Nid oedd rhaid i’r ysgrifennydd siaradwyr, Twynog Davies, chwilio’n bell am westai arbennig y noson y tro yma gan mai ei ferch Eleri Twynog, sylfaenydd cwmni drama Mewn Cymeriad, a wahoddwyd i roi sgwrs ar ‘Ddod â hanes Cymru yn fyw i’n plant’.
Yn enedigol o Aberteifi, daeth Eleri i Lanbed yn 1977 a thra’n brif ferch yn ysgol uwchradd y dre daeth yn aelod o’r pumawd lleisiol adnabyddus Cwlwm.
Graddiodd mewn drama a Chymraeg ym Mangor, cyn symud i Guildford i ddilyn cwrs MA mewn twristiaeth a marchnata. Bu’n swyddog marchnata i’r Eisteddfod Genedlaethol am wyth mlynedd cyn ymuno â S4C fel pennaeth marchnata a digwyddiadau am gyfnod o 13 mlynedd o’r bron. Yna yn 2013 gwnaeth benderfyniad i ffurfio cwmni, sef Mewn Cymeriad, gyda’r bwriad o feithrin ymhlith plant ysgolion Cymru ymwybyddiaeth o hanes eu gwlad trwy gyfrwng y ddrama - her oedd yn cyfuno ei chymwysterau, ei phrofiad a’i thalentau.
Diolchwyd i Eleri gan Andrew Jones, Felindre am sgwrs wirioneddol ddifyr a diddorol gan ei llongyfarch ar ei menter a’i gweledigaeth.
Cynhelir cyfarfod nesaf y Cylch ar 5 Rhagfyr am 7.30yh yn yr un lleoliad pan groesawir yr awdures Heiddwen Thomas, Pencarreg, i sôn am ‘Waith yr awdur’.
If you’re a member of a club, society or group, send your news to [email protected]




.png?width=209&height=140&crop=209:145,smart&quality=75)

Comments
This article has no comments yet. Be the first to leave a comment.