THE latest community news from Lampeter

Cymdeithas Ddiwylliadol Eglwysi Shiloh a Soar

CYFARFU’R gymdeithas ar brynhawn Iau, 14 Tachwedd, ac er gwaethaf y tywydd, mi ddaeth cynulleidfa deilwng ynghyd.

Y gwestai oedd y Parch Dafydd Jones (neu Dafydd Aeron) a cafwyd orig hynod ddiddorol yn ei gwmni.

Soniodd ar y dechrau am ei blentyndod yn ei gartref ar safle y ffactori laeth yn Felinfach.

Roedd yr eglwys leol yn fwrlwm o weithgareddau gyda gymaint â 90 yn mynychu yr ysgol sul. Roedd yna gyfle i ymddiddori mewn cyngherddau a dramâu ac mi wnaeth hyn gychwyn ei ddiddordeb mewn actio.

Efallai na fu cymeriad erioed yn fwy poblogaidd yn y pantomein blynyddol yn theatr Felinfach na’r ficer direidus a’i berthynas gyda Mattie Evans yn uchabwynt y perfformiadau.

Bu wrthi yn actio yn y pantomein am gyfnod di-dor am 22 mlynedd.

Yn dilyn ei ddawn arbennig fel actor, cafodd gyfle i wneud chwech penod ar Pobl y Cwm a chyfle i fod ar y rhaglen y barhaol ond roedd ei dynfa i aros yn Nyffryn Aeron yn ormod gan nad oedd byw yng Nghaerdydd yn apelio ato.

Bu yna gyfle hefyd ar ôl cyfarfod Brian Rix i weithio yn rhai o theatrau Llundain ond troi y cynnig i lawr a wnaeth Dafydd.

Roedd wedi meddwl ers peth amser i ddilyn cwrs i fod yn offeiriad llawn amser a dyma fynd ati gyda brwdfrydedd.

Cafodd ei wneud yn ddeacon yn y Gadeirlan yn Nh? Ddewi a’r boddhad a gafodd fod ei fam yno i’w weld yn cael ei ordeinio.

Ar ôl bod yn gurad yma yn Eglwys Sant Pedr am ddwy flynedd, penodwyd i fod y offeiriad ar bump o eglwysi yng Ngheredigion ond yr oedd cynnal gymaint o gyfarfodydd ar y Sul yn faich ar ei iechyd a dyma benderfynu ymddeol.

Gobeithio er hynny ar ôl seibiant o chwech mis y bydd yn ail gydio yn yr awennau ac yn barod mae’n si?r i gynorthwyo eglwysi a chapeli bach y wlad ar y Sul.

Twynog Davies oedd yn llywyddu yn absenoldeb Huw Jenkins ac mi ddiolchodd i Dafydd am ein tywys mor fendigedig i fro ei febyd ac am rannu gyda ni ei aml ddoniau.

Dymunwn yn dda iddo ef a’i briod Delyth i’r dyfodol.

If you’re a member of a club, society or group, send your news to [email protected]