MAE Plwmp a’r Llyfr Coll, y llyfr nesaf yng nghyfres boblogaidd Cyw a’i Ffrindiau gan Anni Llŷn, yn dilyn hanes Plwmp, wrth iddo, gyda help Jangl, chwilio am ei hoff lyfr ar ôl iddo ei golli yn y parc.
Mae’r gyfres yn gydweithrediad rhwng gwasg y Lolfa, cwmni cynhyrchu Boom Plant ac S4C.
Meddai Sioned Geraint, Comisiynydd Plant, S4C: “Mewn cyfnod pan mae angen annog darllen a mwynhau llyfrau bydd plant ifanc iawn wrth eu boddau yn dilyn anturiaethau ffrindiau Cyw, ac mae’r stori ddiweddaraf hon am Plwmp yn un hyfryd iawn.”
Meddai Helen Davies, Pennaeth Cyw, Boom Plant: “Mae Boom Plant yn falch iawn o gyhoeddi llyfr arall yn y gyfres Cyw a’i Ffrindiau gyda’r Lolfa.
“Dw i’n siŵr bydd plant ledled Cymru a thu hwnt yn mwynhau darllen stori Plwmp a’r Llyfr Coll. Gobeithio fydd y llyfr sy’n dathlu darllen a llyfrau yn annog plant i fwynhau straeon ac i ddatblygu cariad at lyfrau o oedran ifanc.”
Mae cyfres Cyw a’i Ffrindiau ar gyfer y plant lleiaf a cheir brawddegau byr hawdd-i-ddarllen ar bob tudalen a lluniau lliw hwyliog.
Mae’r gyfres yn dilyn Cyw a’i ffrindiau mewn sefyllfaoedd sy’n gyfarwydd i blant bach, fel ei bod hi’n hawdd iddyn nhw uniaethu gyda hwy.
Defnyddir y gyfres bellach fel arf i ddysgu geirfa a phatrymau iaith syml i blant ifanc. Ceir hefyd cyfres o lyfrau Cyw dwyieithog ar gyfer plant sy’n dysgu Cymraeg fel ail iaith, sef ‘Dysgu gyda Cyw’.
Mae Plwmp a’r Llyfr Coll gan Anni Llŷn ar gael nawr (£4.99, Y Lolfa).





Comments
This article has no comments yet. Be the first to leave a comment.