THE latest community news from around Lampeter.
Cylch Cinio
DAETH aelodau’r Cylch Cinio ynghyd unwaith eto ar 6 Hydref yn y Clwb Rygbi dan lywyddiaeth Aneurin Jones.
Dyma oedd y cyntaf o bum cyfarfod a gynhelir rhwng Hydref a Mawrth, sef tymor arferol y Cylch.
Dros yr haf fe lwyddodd yr ysgrifennydd siaradwyr, Twynog Davies, i drefnu rhaglen amrywiol a chyffrous, ac yn sicr fe osodwyd y safon yn uchel iawn gan wr gwadd y noson, Aled Jones o Gwrtycadno, prif weithredwr cynorthwyol Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru.
Ar ddechrau’r noson, wedi croesawi’r aelodau a’r gwr gwadd, fe fanteisiodd y llywydd ar y cyfle i longyfarch aelod o’r Cylch, y bâs-bariton Kees Huysmans, ar ei gamp odidog yn ennill y Rhuban Glas yn Eisteddfod Genedlaethol y Fenni eleni a rhoddwyd cymeradwyaeth wresog iddo gan yr aelodau.
Aeth y llywydd ymlaen i nodi fod Richard Marks wedi cytuno i fod yn is-lywydd yn ogystal ag ysgrifennydd y wasg tra bod pwyllgor y cylch am y tymor fel arall yn ddigyfnewid: Twynog Davies, Tom James (trysorydd) a Tim Jones (ysgrifennydd cyffredinol.)
Gyflwynodd y llywydd y siaradwr gwadd.
O’r cychwyn yr oedd hi’n amlwg fod Aled yn areithiwr hwyliog a naturiol.
Yn wr ifanc o gefndir amaethyddol cryf yn nyffryn Cothi, fe esboniodd mai “Hyd Yma” fyddai teitl ei sgwrs, cipolwg ar ei fywyd a’r yrfa fer a disglair a ddaeth ag ef i’w swydd bresennol.
Wedi derbyn gradd brifysgol dosbarth cyntaf a chymhwyso fel tirfesurydd siartredig a phrisiwr amaethyddol daeth yn bartner yng nghwmni Rees Richards.
Dywedodd mai mawr oedd ei ddyled i fudiad y Ffermwyr Ifanc - bu’n gadeirydd o’i glwb ffermwyr ifanc lleol a bu wedyn yn gadeirydd o’r Pwyllgor Trefnu Rali Ewropeaidd.
Tu hwnt i’w swydd fel prif weithredwr cynorthwyol, roedd hi’n amlwg fod ei weithgarwch gyda’r Gymdeithas Amaethyddol a’r Sioe Frenhinol yn eang ac amlochrog ac yntau’n Gadeirydd Fforwm Aelodau Ifanc y Gymdeithas ac yn aelod o amryw bwyllgorau a gweithgorau.
Aeth ati i olrhain tipyn o hanes cymdeithasau amaethyddol o’u dechreuad gyda Charles Powell yn 1755 hyd at sefydlu Sioe Frenhinol Cymru yn 1954 ac ymlaen i’r presennol.
Llwyddodd Aled i ddifyrru a diddori’r aelodau, yr amaethwyr niferus yn eu plith a’r gweddill fel ei gilydd.
Rhoddwyd gair graenus o ddiolch iddo gan Andrew Jones, Felindre Uchaf.
Cynhelir cyfarfod nesaf y cylch ar 3 Tachwedd.
Brondeifi
AR ddydd Sadwrn, 8 Hydref, cynhaliwyd angladd Ieuan Jones, Arfryn, Cwmann. Roedd yn 87 oed.
Bu’n deyrngar i Gapel Brondeifi ac arbedodd filoedd o bunnau i’r achos dros y blynyddoedd trwy gyflawni’r holl waith trydanol ar y capel, y festri a’r Mans yn ddi-dâl.
Preifat oedd yr angladd o dan ofal ei weinidog, y Parch Alun-Wyn Dafis gyda’r Parch Goronwy Evans yn talu teyrnged iddo.
Cymerwyd at y weddi gan y Canon Eileen Davies, gyda Margaret Jones wrth yr organ.
Ddydd Sul, 9 Hydref daeth tyrfa luosog ar achlysur croesawu’r Parch Alun-Wyn Dafis yn weinidog yno.
Estynnwyd croeso i bawb gan Meinir Evans, Wernllwyn.
Llywyddwyd y gwasanaeth gan y Parch Wyn Thomas ac yn cymryd rhan bu Nans Davies, Diana Bianchi, Margaret Jones, Goronwy Evans a Melda Grantham.
Darllenwyd llythyr Eirene Jones, aelod hynaf y capel.
Ar y sgrin fawr derbyniwyd cyfarchion wrth aelodau Gellionnen, Trebanos; ysgrifennydd y Gymanfa Gyffredinol yn Llundain a Branwen Dafis o Japan.
Chwaraewyd yr organ gan Margaret Jones a Tanya Morgans, a chyda’r band, Alun-Wyn, Ffion a’i ffrind a Hywel Roderick.
I gloi’r cyfarfod cafwyd gair gan y gweinidog newydd.
Yn Festri Brondeifi ar nos Fawrth, 11 Hydref lansiwyd llyfr diweddaraf Goronwy Evans, ‘Ar Grwydir’ sef hanes y crwydriaid yng Nghymru.
Cymerwyd rhan gan Doreen Lewis, Kees Huysmans ac Alun-Wyn ar yr acordion.
Yn dilyn y cyfan cafwyd te tramp wedi ei baratoi gan Delyth Jones, Pantri.
Ymddangosodd eitem ar ‘Heno’ ar y llyfr ar noson y lansio.
Agorwyd sesiwn Urdd y Benywod ar 13 Hydref gyda noson yng ngofal Margaret Jones ac yn rhan o hynny bu’r gwragedd yn cydnabod gwasanaeth Beti Evans fel llywydd y gangen am flynyddoedd meithion.
Bu’n noson gofiadwy a chyflwynwyd rhodd o flodau iddi a siec a’i hethol yn Llywydd Anrhydeddus.
Gwasanaethwyd ym Mrondeifi ar Sul, 16 Hydref gan Beti Griffiths, Lledrod.
Cafwyd ganddi neges arbennig a chofiadwy am stori’r Deg Gwahanglwyf.
Y Gweinidog oedd ym Mrondeifi ar Sul, 23 Hydref mewn Gwasanaeth Cymundeb.
Parch Alun-Wyn Dafis fydd yno ar Sul, 30 Hydref am 10yb a’r Sul dilynol, 16 Tachwedd am 10yb y Parch Goronwy Evans fydd yn gwasanaethu.
Bedyddwyr Gogledd Cymru
DAETH cynrychiolaeth dda o aelodau Eglwysi Bedyddwyr Cylch Gogledd Teifi ynghyd i Llain y Castell, yn ddiweddar.
Fe’n croesawyd yn gynnes iawn gan Mair, ein llywydd, ac offrymwyd gras gan Ann Morgan.
Yn dilyn cinio tri chwrs ardderchog, cyflwynodd Mair ein gwr gwadd, sef Jim Lloyd, neu ‘Super Jim’ fel yr adnabyddir ef, un o blant eglwys Brynhafod, Gorsgoch.
Cafwyd ganddo araith wych yn llawn hiwmor o’r dechrau i’r diwedd, yn sôn am ei blentyndod hapus yn ardal Gorsgoch, ei gyfnod diddorol yn yr heddlu a’r deng mlynedd arbennig fel rhan o’r rhaglen boblogaidd ‘Twrio’ ar S4C.
Mae’n meddu ar ddawn eithriadol fel siaradwr ac roedd pawb wrth eu bodd yn gwrando arno.
Diolchodd Brenda iddo am rannu ei atgofion â ni mewn ffordd mor hwyliog ac erys yn ein cof am amser hir.
Church service
ST PETER’S Church: Sunday, 30 October, 8am Holy Communion in English; 10.30am Morning Worship service, bilingual.
Trip
TEITHIODD llond bws o aelodau’r eglwysi ar eu trip blynyddol, ac eleni ein cyrchfan oedd gogledd Cymru gan gyrraedd Eglwys y Bedyddwyr Ainon, Llanuwchllyn cyn amser cinio.
Fe’n croesawyd yn gynnes gan y Parch Carwyn Sidall. Yna cynhaliwyd oedfa fendithiol yno yng ngofal ein gweinidog, y Parch Jill Tomos â nifer o’n haelodau yn ei chynorthwyo.
Profiad arbennig oedd addoli yn yr eglwys fach hon yng ngolau cannwyll. Bu pawb yn mwynhau picnic cyn teithio ar y trên o Lanuwchllyn i’r Bala ac roedd y golygfeydd wrth edrych allan dros Llyn Tegid yn odidog.
Treuliwyd gweddill y prynhawn yn ymweld â ‘Byd Mari Jones ’ yn Eglwys Llanycil. Yn gyntaf cafwyd croeso cynnes gan Nerys yn y Ganolfan Groeso a’r cyfle i wylio dvd ar hanes Mari Jones a hefyd Cymdeithas y Beibl. Mae arddangosfa ‘Byd Mari Jones’ a agorwyd yn swyddogol gan Leta Jones, gor gor gor wyres Thomas Charles ar Sul, 5 Hydref 2014 yn werth ei gweld ac yn dod â’r hanes anhygoel yn fyw iawn. Cerddodd y ferch ifanc 15 oed 26 milltir o Lanfihangel-y Pennant i’r Bala i brynu Beibl yn y flwyddyn 1800. Roedd wedi cynilo arian am chwe blynedd er mwyn prynu Beibl yn ei hiaith ei hun, sef Cymraeg - dyna chi ymdrech glodwiw.
Daeth y diwrnod i ben gyda swper blasus yng Ngwesty Llety Parc, Aberystwyth. Diolchoddd Mair i bawb oedd wedi bod ynghlwm â threfniadau’r trip am ddiwrnod llwyddiannus, diddorol a phleserus.
Cylch cinio
DAETH aelodau’r Cylch Cinio ynghyd unwaith eto ar 6 Hydref yn y Clwb Rygbi dan lywyddiaeth Aneurin Jones. Dyma oedd y cyntaf o bum cyfarfod a gynhelir rhwng Hydref a Mawrth, sef tymor arferol y cylch.
Dros yr haf fe lwyddodd yr ysgrifennydd siaradwyr, Twynog Davies, i drefnu rhaglen amrywiol a chyffrous ac yn sicr fe osodwyd y safon yn uchel iawn gan wr gwadd y noson, Aled Jones o Gwrtycadno, prif weithredwr cynorthwyol Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru.
Ar ddechrau’r noson, wedi croesawi’r aelodau a’r gwr gwadd, fe fanteisiodd y llywydd ar y cyfle i longyfarch aelod o’r cylch, y bâs-bariton Kees Huysmans, ar ei gamp odidog o ennill y Rhuban Glas yn Eisteddfod Genedlaethol Y Fenni eleni a rhoddwyd cymeradwyaeth wresog iddo gan yr aelodau. Aeth y llywydd ymlaen i nodi fod Richard Marks wedi cytuno i fod yn is-lywydd yn ogystal ag ysgrifennydd y wasg, tra bod pwyllgor y cylch am y tymor fel arall yn ddigyfnewid, sef Twynog Davies, Tom James (trysorydd) a Tim Jones (ysgrifennydd cyffredinol.)
Wedi’r cinio blasus iawn a ddarparwyd gan arlwywyr y Clwb Rygbi fe gyflwynodd y llywydd y siaradwr gwadd. O’r cychwyn yr oedd hi’n amlwg fod Aled yn areithiwr hwyliog a naturiol.
Yn wr ifanc o gefndir amaethyddol cryf yn nyffryn Cothi, fe esboniodd mai “Hyd Yma” fyddai teitl ei sgwrs, cipolwg ar ei fywyd a’r yrfa fer a disglair a ddaeth ag ef i’w swydd bresennol. Wedi derbyn gradd brifysgol dosbarth cyntaf a chymhwyso fel tirfesurydd siartredig a phrisiwr amaethyddol, daeth yn bartner yng nghwmni Rees Richards.
Dywedodd mai mawr oedd ei ddyled i Fudiad y Ffermwyr Ifanc, bu’n gadeirydd o’i glwb ffermwyr ifanc lleol a bu wedyn yn gadeirydd o’r Pwyllgor Trefnu Rali Ewropeaidd. Tu hwnt i’w swydd fel prif weithredwr cynorthwyol, roedd hi’n amlwg fod ei weithgarwch gyda’r Gymdeithas Amaethyddol a’r Sioe Frenhinol yn eang ac amlochrog ac yntau’n Gadeirydd Fforwm Aelodau Ifanc y Gymdeithas ac yn aelod o amryw bwyllgorau a gweithgorau. Anodd credu fod hyn i gyd yn caniatâu llawer o amser sbâr, ond clywyd fod ganddo hoffter o feicio ac iddo gyflawni taith o dros 500 milltir i godi arian i’r Ambiwlans Awyr.
Cafwyd nifer o hanesion difyr gan Aled am ei deithiau i wledydd tramor, boed yn Awstralia, yr Unol Daleithiau a’u ffeiriau taleithiol enfawr neu’r Ariannin a Papua New Guinea - rhai o’r teithiau’n deillio o’i lwyddiant i ennill Ysgoloriaeth Nuffield yn 2015 ar sail ei adroddiad yn ymwneud â rôl cymdeithasau a sioeau amaethyddol gyda llygad ar y dyfodol.
Aeth ati i olrhain tipyn o hanes cymdeithasau amaethyddol o’u dechreuad gyda Charles Powell yn 1755 hyd at sefydlu Sioe Frenhinol Cymru yn 1954 ac ymlaen i’r presennol.
Fe grisialodd her y dyfodol fel y dasg o barhau i fod yn berthnasol i’r diwydiant amaeth a pharhau i gynnal diddordeb yr ymwelwyr hynny i’r sioe nad ydynt yn ffermio, ond sydd erbyn hyn yn cynrychioli chwe deg y cant o dyrfa’r sioe.
Llwyddodd Aled i ddifyrru a diddori’r aelodau, yr amaethwyr niferus yn eu plith a’r gweddill fel ei gilydd. Rhoddwyd gair graenus o ddiolch iddo gan Andrew Jones, Felindre Uchaf.
Fel brodor o Gellan medrai sôn tipyn am gynseiliau a chysylltiadau bro’r gwr gwadd, gan gynnwys hanesyn difyr am un o gymeriadau cofiadwy “mynydd Llanbed”, cyn gorffen trwy ddymuno’n dda i Aled ac i “Sioe’r Werin.” Cynhelir cyfarfod nesaf y Cylch ar 3 Tachwedd.
If you’re a member of a club, society or group, send your news to [email protected]







Comments
This article has no comments yet. Be the first to leave a comment.