THE latest community news from Lampeter.

Noddfa

DAETH cynulliad teilwng iawn o aelodau, rhieni a ffrindiau’r achos ynghyd i Noddfa i Wasanaeth Diolchgarwch yr Ysgol Sul.

Braf oedd gweld 21 o blant cynradd ac uwchradd yn cymryd rhan ynghyd â chwech o’r mamau a phawb yn rhoi o’u gorau. Roedd yr olygfa hon yn un i godi calon.

Croesawyd pawb gan Sioned a chyhoeddwyd yr emynau gan Sion, Osian Roberts, Gwenllian, Ffion, Rhys Tom, Sion Ifan ac Efan. Y llefarwyr oedd Lisa, Beca, Sian Roberts Jones, Helen, Delyth a Llinos ac offrymwyd gweddi gan Sian Jones.

Mwynhawyd cyflwyniadau amrywiol yn cynnwys grwpiau canu a chydadrodd a datganiad swynol gan Trystan Bryn â’r cyfan yn cyfleu diolch i Dduw am ei haelioni ac yn cynnwys ychydig o hiwmor hefyd.

Y deuawdwyr oedd Elan a Sioned a’r unawdwyr oedd Lisa, Cerys, Grace, Gwenllian a Ffion.

Yn dilyn darlleniad o hanes Iesu yn bwydo’r pum mil cafwyd sgwrs gan Elan a’i brawd Osian yn pwysleisio’r pwysigrwydd o rannu gyda’n cyd-ddyn sy’n dioddef yma yn Llambed a thu hwnt. Cafwyd cyfle wedyn i wylio ffilm o’r stori ar y sgrin yng ngofal ein gweinidog.

Yn ôl yr arfer fe’n swynwyd gan gyfraniad y plant lleiaf mewn pennill a chân sef Darcey, Tudur, Rhun, Trystan Wyn, Trystan Bryn, Ifan, Lynwen ac Esther a phob un ohonynt yn amlwg wrth eu bodd gan ddod â gwên i wynebau’r gwrandawyr. Y cyfeilyddion oedd Alwena, Elan a Janet.

Braf oedd gweld dau aelod newydd o’r Ysgol Sul yn cymryd rhan sef Ifan a Lynwen a hefyd Esther yn ymuno gyda nhw.

Talodd ein gweinidog, y Parch Jill Tomos, deyrnged uchel i’r plant a’r bobl ifanc am eu cyfraniadau graenus, i’r rhieni am eu cefnogaeth hwythau, i’r cyfeilyddion, i bawb am ddod ac i Janet am y trefniadau ac am ei holl syniadau a’r amrywiaeth o eitemau.

Roedd y plant wedi dod a bw-ydydd o bob math i’w cyflwyno i Fanc Bwyd y dref.

Wrth droi tuag adref, roedd pawb yn datgan ei llawenydd o gael y fraint o gyd-addoli gyda’r plant a’r bobl ifanc mewn gwasanaeth bendigedig.

yr Urdd

CYNHALIWYD cyfarfod agoriadol Aelwyd yr Urdd yn Ysgol Bro Pedr. Etholwyd y swyddogion canlynol ar gyfer y flwyddyn: cadeirydd, Beca Jenkins; ysgrifennydd, Elan Jones; a trysorydd, Beca Ann.

Cytunodd Janet a Geinor Medi i gario mlaen fel arweinyddion er bod Geinor yn methu bod gyda ni y tymor hwn.

Edrychwn ymlaen at ei chymorth hi a Delun y tymor nesaf. Yr ydym yn ffodus iawn eleni o gael cyngor a help gan Sian Elin sydd yn swyddog cynorthwyol y mudiad yng Ngheredigion.

Cafwyd llawer o sbri wedyn yn cymryd rhan yn y gêm Cyrlio dan gyfarwyddyd Rhydian, swyddog cynorthwyol yr Urdd.

Cafwyd chwarae brwdfrydig iawn yn enwedig gan y rhai ieuengaf!

I gloi’r noson bu’r aelodau yn chwarae gemau adeiladu tîm ac eto cafwyd llawer o hwyl.

Diolchodd Beca Jenkins i Rhydian am noson ddifyr iawn.

Daeth criw niferus ynghyd i’r ail gyfarfod i sesiwn o goluro Calan-gaeaf yng ngofal Manon Williams.

Wedi i Manon arddangos ei sgiliau ar Mali, bu pawb wrthi’n ddiwyd iawn yn coluro ei gilydd ac roedd yr olygfa ar ddiwedd y nos yn werth ei gweld. Roedd yr aelodau i gyd wedi mwynhau eu hunain yn fawr ac yn edrych braidd yn wahanol a dweud y lleiaf!Diolchodd Beca Ann i Manon am noson hynod ddiddorol.

Ar 1 Tachwedd daeth nifer dda o’r aelodau ynghyd i sesiwn Clocsffit gan Tudur Phillips sydd yn glocsiwr o fri ac yn wyneb cyfarwydd ar S4C.

Fe’i croesawyd yn gynnes iawn gan Elan. Yna bu pawb wrthi yn clocsio trwy ddilyn cyfarwyddiadau Tudur gan golli tipyn o chwys! Wedyn bu’r aelodau yn cymryd eu tro i neidio dros gadach gwddwg a llwyddodd Beca Ann i wneud hynny 14 o weithiau - camp anhygoel.

Bu’n noson arbennig iawn gyda phawb wedi cael amser wrth eu bodd yn clocsio ac roedd ambell un yn dangos addewid mawr. Diolchodd cadeirydd yr aelwyd, sef Beca Jenkins, i Tudur am noson egnïol a hwyliog dros ben. Ar ddiwedd y sesiwn pleser oedd cyfarfod â gwraig Tudur, sef Anni Llyn, Bardd Plant Cymru.

St Peter’s Church

SUNDAY, 27 November: 8am, Holy Communion in English; 9.15am, Cymun Bendigaid (Holy Communion in Welsh); 10.30am, Holy Communion - Bilingual.

If you’re a member of a club, society or group, send your news to [email protected]