THE latest community news from Lampeter.
Cylch Cinio
DAETH aelodau’r Cylch Cinio ynghyd ar gyfer cyfarfod olaf y flwyddyn yn y Clwb Rygbi ar nos Iau, 1 Rhagfyr.
Gwr gwadd y noson oedd y Dr Gwyn Davies, brodor o Ynysybwl sydd wedi treulio’i yrfa yn adran Efrydiau Allanol Coleg y Brifysgol, Aberystwyth.
Pleser arbennig i’r llywydd oedd ei gyflwyno gan i Aneurin Jones fod yn athro Cymraeg iddo ym Mhontypridd ers talwm.
“Boi o’r Bwl” oedd testun Dr Davies ac aeth ati i addysgu’r aelodau am y pentref hwnnw trwy gynnal sgwrs gyda nhw. Dosbarthwyd rhestr o gwestiynau diddorol a direidus am leoliad a hanes Ynysybwl ac wrth eu trafod a cheisio’i hateb cafwyd llawer o wybodaeth ddifyr.
Yn gorwedd rhwng y Tâf a’r Rhondda, deallwyd mai cae ar lan afon droellog yw’r “ynys” ac mai enwogrwydd y pentref yn y dyddiau fu am chwarae pêl sy’n esbonio’r “bwl.”
gwrs rhoddwyd sylw teilwng i Gruffydd Morgan, sef Guto Nyth Brân, gan fod Ynysybwl ym mhlwyf Llanwynno a nodwyd fod Ras Nos Galan Aberpennar gerllaw yn cynnal y traddodiad.
Cyfeiriwyd hefyd at y llyfr “Hanes Plwyf Llanwynno” o waith Glanffrwd a’i ddarlun o gymuned Gymreig cyn cyfnod y diwydiant glo. Os am gysylltiad rhwng Ynysybwl a Llanbed clywyd fod Idwal Jones wedi llwyddo i odli Honolulu a “Ynysybwl w!”
Ar nodyn o hiwmor hefyd fe awgrymodd Dr Davies fod y dwr lleol yn rhoi corff byr llydan a chydnerth i ddynion Ynysybwl (y dynion yn unig cofier) gan gynnig ei hun a rhai o’i gyd-bentrefwyr adnabyddus fel tystiolaeth, sef y chwaraewyr rygbi Garin Jenkins a Staff Jones a’r pencampwr dartiau Leighton Rees.
I orffen cyfeirwyd at y dyfyniad o awdl “Y Glöwr” (Gwilym Tilsley) sydd wedi ei dorri ar garreg goffa wrth y fynedfa i safle hen bwll glo Ynysybwl - “I arwr glew erwau’r glo”.
Rhoddwyd diolch ffurfiol i Dr Davies gan John Phillips, un a chanddo adnabyddiaeth dda o Ynysybwl a’r ardaloedd cyfagos yn rhinwedd ei yrfa. Er hired ei gysylltiad ag Aberystwyth dywedodd mai boi o’r Bwl yw Dr Davies o hyd.
Cynhelir y cyfarfod nesaf ar nos Iau, 5 Ionawr 2017 pan groesawir y chwaraewr bowls rhyngwladol o Lanbed, Anwen Butten.
Ramblers
THREE-quarters of an hour of road-walking from Cwrtnewydd on 3 December led 500 ft higher than the village itself. The group of 28 included lifelong residents, new arrivals, regular and occasional walkers plus Lampeter Ramblers.
Following the Cledlyn Fach, the group paused to admire this lush glacial valley where an ancient untrodden watery world, and more specifically a pingo here and there, attract diligent scientific interest.
Up above Cwm Mawr and plenty of overgrown gorse, the N - S ‘Bridleway Open to All Traffic’ leads eventually from Mydroilyn to Rhydowen. Negotiating two sections of its tricky furrows, the village walk gladly headed down-hill.
Along the second fieldpath, to Aber, is where Nant Cledlyn Fach in full spate around 40 years ago washed a wooden footbridge off its concrete plinths: 21st century walkers have only the one footpath where three had proved useful for visiting one another on nearby farms in the past.
Ramblers, neighbours and friends completed their bracing December day enjoying warm tea and cakes at Bryn Seion.
As times change for Cwrtnewydd in 2017, local walkers and would-be walkers are keen to venture out again together.
Urdd y Benywod
AR fore Sul, 20 Tachwedd, daeth tro aelodau o Urdd y Benywod Brondeifi i gymryd y gwasanaeth.
Gan fod eleni yn flwyddyn dathlu canmlwyddiant ers geni’r diweddar Barch D Jacob Dafis, a rhai ohonom wedi cael blas mawr ar fynychu’r cyfarfodydd coffa a drefnwyd gan ei gylch capeli gydol mis Medi – penderfynwyd y byddai gwasanaeth ychwanegol i’w coffáu o ddiddordeb i bawb.
Cafwyd darlleniadau, gweddïau, emynau ac anerchiadau amrywiol, a rhain yn cyfeirio at ystod eang o’i waith a’i fywyd.
Soniwyd yn helaeth am ei gyfraniad i emynyddiaeth, ei gonsyrn am yr henoed; ei aelwyd a’u tor-calon o golli Amlyn ac yntau yng ngwanwyn ei fywyd.
Cafwyd hefyd gipolwg ar ei gyfraniad at ei ddigrifwch a’i waith ar Radio Cymru a theledu ac at yr anrhydedd enfawr a ddaeth i’w ran o gael ei ddyrchafu yn Llywydd Anrhydeddus yr enwad Undodaidd a Chrefydd Rydd dros Brydain gyfan.
O ganlyniad i’w farwolaeth - yn llawer rhy ifanc - yn 1974 llifodd teyrngedau lu i goffau y gwr yma a oedd mor amryddawn ac annwyl, a chynhwyswyd pytiau o rhain hefyd yn yr anerchiadau. Roedd yr emynau hefyd wedi eu cyfansoddi ganddo. Yn cyfeilio roedd Elinor Russell.
Teimlwyd gan y gynulleudfa a’r aelodau a gymrodd ran fod hwn wedi bod yn gyflwyniad arbennig iawn a diolchwyd i bawb a fu ynglwm â’r gwasanaeth gan Aneurin Jones.
St Peter’s Church
SUNDAY, 18 December: 8am, Holy Communion in English; 10.30am, Short Service of Morning Prayer; 5pm, Service of Carols and Christingles - with refreshments.
If you’re a member of a club, society or group, send your news to [email protected]







Comments
This article has no comments yet. Be the first to leave a comment.