THE latest community news from Lampeter.
Merched y Wawr
ROEDD cyfarfod mis Chwefror yn wahanol i’r arfer gan ei fod yn agored i bawb. Daeth tua 80 o bobl ynghyd i Fes-tri Shiloh, yn cynnwys aelodau o ganghennau cyfagos, cyn-aelodau, ffrindiau ac ambell i ddyn mentrus! Gwrando ar “Dim ond Dwy” sef yr actorion amryddawn Rhian Morgan a Llio Silin o Gaerfyrddin. Testun eu cyflwyniad oedd “Bwci Bo”, hanesion am ysbrydion benywaidd Cymru. Cafwyd ymateb da gan y gynulleudfa a llawer o hwyl.Ar ôl y cyflwyniad cafwyd cyfle i gymdeithasu dros gwpanaid o de wedi ei baratoi gan Pat, Eryl, Gwyneth a Gwynfil a diolchwyd i bawb gan y llywydd Elin. Enillydd y raffl misol oedd Irene Jones. Bydd y cyfarfod nesaf ar 22 Mawrth pan yn dathlu Gwyl Ddewi drwy gael te prynhawn yn Y Pantri am 3yp.
St Peter’s Church
WEDNESDAY, 1 March: 11am, Ash Wednesday, Holy Communion followed by a Cawl and Pancake lunch at noon.Sunday, 5 March: 8am, Holy Communion in English; 10.30am, Family Service, Bilingual, worship with a difference.
Capel Brondeifi
AR 26 Ionawr, cynhaliwyd Cinio Blynyddol Urdd y Benywod. Ioan Wyn Evans oedd y siaradwr gwadd a soniodd am ei brofiadau amrywiol yn cynhyrchu rhaglenni radio a theledu mewn gwahanol rannau o’r byd. Cafwyd pryd hyfryd o fwyd yn Y Pantri - a diolchwyd Delyth am ei baratoi, gyda chymorth Meinir.Y gweinidog, y Parch Alun Wyn Dafis, oedd yn y pulpud ym Mron-deifi ar 5 Chwefror, a hynny am y tro olaf am ychydig wythnosau. Manteisiodd ar y cyfle i deithio i Siapan i ymweld â’i ferch, Branwen, sy’n byw ac yn gweithio yno.Gareth Morgans gymerodd y gwasanaeth ar 12 Chwefror, gan gymryd ‘Dwylo’ fel ei thema. Gwnaeth y Parch Goronwy Evans longyfarch Gareth ar ei benodiad diweddar fel cyfarwyddwr addysg Sir Gaerfyrddin. Ar y Sul canlynol, 19 Chwefror, bu’r Parch Goronwy Evans hefyd yn trafod grym y dwylo yn ei bregeth ar gyfraniad dyn a dynoliaeth.Melda Grantham, ysgrifennydd yr enwad yng Nghymru, gamodd i’r pulpud ar 26 Chwefror. Yn effeithiol iawn, defnyddiodd ei chyfweliad diweddar ar gyfer y weinidogaeth yng ngholeg yr enwad yn Manchester College, Rhydychen, fel sail i’w hanerchiad. Pob dymuniad da iddi i’r dyfodol wedi iddi gael ei derbyn i astudio ar gyfer y weinidogaeth.Ar 5 Mawrth, cynhelir gwasanaeth Gwyl Ddewi, gyda’r gweinidog, plant yr Ysgol Sul a theulu Ffosyffin yn rhannu’r cyfrifoldebau. Bydd cawl i ddilyn ac mae’n argoeli i fod yn achlysur cofiadwy.Bu farw dau o aelodau’r capel yn ddiweddar. Roedd Betsi Jones yn ffyddlon a theyrngar i’r capel am ddegawdau. Fe’i chofir fel rhywun oedd yn meddu ar wên barod a hiwmor iach. Dyn addfwyn a thawel oedd John Gregson, a bu farw’n ddisymwth. Yn gitarydd amryddawn, roedd yn hoff o adnewyddu ceir Mini Cooper S yn ei amser hamdden. Mawr fydd y bwlch ar ôl y ddau yma, a chydymdeimlwn gyda’u teuluoedd yn eu colled.Aelwyd yr UrddCYNHALIWYD cyfarfod cyntaf y flwyddyn yn Ysgol Bro Pedr. Trefnwyd rhaglen amrywiol ar gyfer y tymor. Yna cymerwyd rhan mewn gemau o bob math i ddathlu diwrnod Santes Dwynwen yng ngofal Sian Elin datgelwyd sawl cyfrinach yn ystod y noson! Diolchodd Beca Jenkins i Sian Elin am baratoi noson ddifyr iawn ar ein cyfer. Atgoffodd Janet yr aelodau am ymarferion y partïon deusain a’r llefaru ar gyfer Eistedd-fod yr Urdd.Croesawyd Rhydian, swyddog datblygu cynorthwyol yr Urdd yng Ngheredigion, i’r ail gyfarfod gan Elan a threuliwyd orig llawn hwyl a sbri dan ei gyfarwyddyd yn cymryd rhan yn y gamp Cyrlio. Roedd ambell un yn gystadleuol a brwdfrydig iawn! Talodd Sioned ei gwerthfawrogiad ar ran yr aelodau i Rhydian am noson arall lwyddiannus.Cyn diwedd y cyfarfod cafodd Janet syrpreis enfawr wrth weld Llinos ac Amanda, dwy o’r rhieni yn cyrraedd gyda chacen pen-blwydd iddi. Wedi’r sioc, diolchodd Janet i bawb ac yna bu’r aelodau yn mwynhau darn o’r gacen.Dymunwyd pob lwc i bawb sy’n cystadlu yn Eisteddfod yr Urdd.
If you’re a member of a club, society or group, send your news to [email protected]







Comments
This article has no comments yet. Be the first to leave a comment.