THE latest community news from Lampeter.

Merched y Wawr

BU’r cyfarfod mis Mawrth yn wahanol i’r arfer; penderfynwyd dathlu Gwyl Ddewi drwy gael te prynhawn yng nghaffi’r Pantry. Darparwyd danteithion arbennig gan Delyth, y perchennog. Estynnodd Elin groeso i bawb a chydymdeimlodd â Pat Davies a oedd wedi colli’i chwaer ac Eiry Jones, Maesllan, a oedd wedi colli brawd. Ar ôl bwyta â phawb wedi cael eu digoni fe wnaeth Elin, y llywydd, a Gillian, y trysorydd, ddarparu adloniant. Gosodwyd posau amrywiol a diddorol a’r enillwyr oedd Aerwen Griffiths, Ann Morgan a Janet Evans. Cytunodd Mary, Veronica, Morfudd a Dilwen i ymweld â chartref preswyl Hafandeg. Enillydd y raffl misol oedd Gillian. Talwyd y diolchiadau gan Gwen am brynhawn gwahanol a dy-wedodd y dylem wneud hyn bob blwyddyn.Bydd y cyfarfod nesaf yn ôl yn Festri Shiloh ar 10 Ebrill pan fyddan yn croesawi Huw Ffash. Bydd aelodau o ganghennau eraill o Ferched y Wawr yn ymuno â nhw i fwynhau a chymdeithasu a bydd un aelod lwcus yn cael gwedd newidiad. Edrychwyd ymlaen yn fawr at y noson arbennig yma pan fydd camerau ‘Heno’ yn bresennol hefyd.

Beekeepers

LAMPETER & District Beekeepers’ Association held their AGM at Victoria Hall, on 14 March. Sandra Lane was re-elected as chair and other committee members also re-elected for a further term were: Paul Smith (vice-chair), Keith Chalk (treasurer), Jan Crabb (secretary), Derek Anderson (apiary manager) and Philippa Pickworth (publicity officer). Kate Hawthorne was elected as the new deputy secretary, and Gordon Lumby and Allen Davies joined as new committee members. Association events for the new season start with the Taster Day introduction to beekeeping course to be held on 8 April at the Millennium Hall, Cellan, followed by the series of five Beginners’ course classes starting on 23 April. All members are invited to assist with these events. Plans for the coming year also include hosting a stand and observation hive at the Cae Hir Gardens Open Day and Plant Fair (1 May) and Lampeter Food Festival (29 July). The next association meeting, held jointly with Teifiside Beekeepers’ Association, is on 22 April at the Memorial Hall, Aberaeron, at 3.45pm, which will be a talk by Dr Michael Keith-Lucas of Reading University on the use of pollen in forensic science. Non-members are welcome to attend (£2 per person). Anyone wishing to attend the Taster Day or Beginners’ Course, or who would like a talk on bees and beekeeping for their own school group, club or association, can contact Lampeter Beekeepers on [email protected]

Capel Soar

AIL rihyrsal Cymanfa Ganu Annibynwyr nos Sul, 2 Ebrill am 5yh.Arweinydd Elonwy Davies.

St John

ST John Lampeter are holding a fun day on 13 of May at the rugby club. There will be free admission to all, free bouncy castles, free face painting and much more. Children under 10 will also be entitled to free food. A raffle will also be held on the day.

Spiritual church

LAMPETER Spiritual Gathering holds Evenings of Clairvoyance with Mediums from all over the UK every Wednesday at the Victoria Hall, Bryn Road. Doors open at 7pm for 7.30pm start. Admission is free. Raffle and refreshments afterwards. For further details phone Sarah 01545 571307 or 07811 603062.

Shiloh a Soar

BU Cymdeithas Ddiwylliadol Eglwysi Shiloh a Soar yn dathlu Gwyl ein Nawddsant ar nos Wener, 10 Mawrth, yn Festri Shiloh.Braf oedd cael croesawu ffrindiau o Eglwys Noddfa i ymuno gyda ni mewn te Cymreig a bu’r gwragedd yn brysur yn gweini wrth y byrddau yn ôl yr arfer.Roeddem yn ffodus iawn eleni o fedri denu dau o artistiaid dawnus i’n diddanu, sef Eleri Roberts a Trefor Pugh.Mae Eleri yn arweinydd ar Gôr Merched y Gromlech yn Sir Benfro a Pharti Alawon Gwerin Côr Cantre’r Gwaelod, y ddau gôr wedi ennill mwy nag unwaith yn y Genedlaethol.Enillodd Trefor ar y llaw arall Tlws Lady Herbert Lewis yn y genedlaethol fel y prif ddatgeinydd mewn Canu Gwerin. Swynwyd y gynulleidfa ddeallus gan safon y canu a chrëwyd deusain hyfryd.Roedd yna amrywaith yn y rhaglen o ganu gwerin, cerdd dant, unawd yn y dull canu plygain i un o emynau y Pêr Ganiedydd, O Llefara Addfwyn Iesu ar y dôn The Rose.Cyflwyniad hynod safonol a chartrefol gan y ddau â phawb mor werthfawrogol o’u doniau amlwg.Diolchodd Alun Williams ar ran Eglwys Noddfa am y gwahoddiad a gwnaeth y llywydd hefyd ategi’r diolch.Noson hyfryd i gloi gweithgareddau’r flwyddyn.

St Peter’s Church

ON Sunday, 2 April, at 8am there is Holy Communion in English.And at 10.30am there is a family service - a bilingual worship for all ages.