THE latest community news from Lampeter
Capel Brondeifi
AR 3 Medi, cafwyd Cymundeb dan ofal y gweinidog, y Parch Alun Wyn Dafis.
Ioan Wyn Evans gymrodd y gwasanaeth ar y Sul canlynol, gyda’r gweinidog yn ôl wrth y llyw ar 17 Medi.
Ar 24 Medi, cynhaliwyd oedfa arbennig gan rai o bobl ifanc y capel.
Lluniwyd y gwasanaeth gan Heini Thomas, Ffordd y Gogledd, ac yn cyfeilio roedd Meinir Evans. Yn cymryd rhan roedd y canlynol: Gwion a Mari Hefin, Elen Jones, Siôn Evans, Elin Williams, Lili Branwen, Ffion Davies, Gruffydd a Martha Thomas a Heini Thomas, Greenfield Terrace.
Yn dilyn yr oedfa cafwyd cwpaned o dê a phice ar y maen yn y festri.
Ar nos Sul, 1 Hydref, cynhaliwyd y Cwrdd Diolchgarwch.
Daeth torf dda ynghyd a braf gweld y Festri’n llawn.
Y gweinidog, y Parch Alun Wyn Dafis, oedd yn llywyddu, a’r Parch Wyn Thomas yn pregethu.
Cafwyd cyfeiliant cerddorol hefyd gan y Parch Alun Wyn Dafis a Hywel Roderick.
Yn casglu roedd Alan Morgan.
Trist iawn oedd clywed am farwolaeth un o ffyddloniaid y capel yn ddiweddar.
Bu farw Alun Davies, Heddle, Stryd Newydd, yn sydyn yn 53 oed. Roedd yn un o blant yr Ysgol Sul a bu’n aelod brwd o’r capel.
Mae bwlch mawr ar ei ôl ym Mrondeifi. Cydymdeimlwn gyda Gwenda a’r teulu i gyd yn eu hiraeth a’u galar.
Ar nodyn gobeithiol, llongyfarchiadau mawr i Bryn Thomas, 15 oed o Gwmann, fu’n chwarae golff dros dîm Cymru dan 16 oed.
Pob dymuniad da iddo gyda’r gamp i’r dyfodol.
Ar Sul, 17 Hydref, mae’r gweinidog yn trefnu taith i ymweld â chartre’ yr emynydd, William Williams, Pantycelyn, ger Llanymddyfri. a’r eglwys lle cafodd ei gladdu - Eglwys Llanfair-ar-y-bryn.
Mae’n argoeli i fod yn ddiwrnod diddorol iawn.
Gofynnir i unrhyw un sydd â diddordeb i fynd ar y daith i roi gwybod i’r gweinidog.
Concert Series
SOLEM String Quartet, 7.30pm, Monday, 16 October at the Old Hall, University of Wales Trinity Saint David, Lampeter campus.
Winners of the RNCM Nossek and Barbirolli Prizes and the Royal Overseas League Ensemble Competition.
Programme: Ravel String Quartet in F Major; Bartok String Quartet No 4; Haydn, String Quartet No 1 in E flat.
Single tickets: £11; concessions £9.
Membership for the season, which gives admission to six concerts: £50; concessions £40.
Students free with a union card.
Two children free with a paying adult.
Tickets and membership at the door, by phone (01558 650569), or online: Lloyds Bank, Lampeter; sort code 30 94 85; a/c no. 00131594.
When making a payment please inform our treasurer: [email protected]
St Peter’s Church
SUNDAY, 15 October: 8am, Holy Communion in English; 10.30am, Morning Worship Bilingual.
Everyone welcome.
St Mary’s Church, Maestir
SUNDAY, 15 October: 2.30pm, Harvest Thanksgiving.
Noddfa
CYNHELIR y Cwrdd Diolchgarwch ddydd Sul nesa, 15 Hydref, am 5yp yng ngofal yr Ysgol Sul.
Croeso cynnes i bawb.
If you’re a member of a club, society or group, send your news to [email protected]







Comments
This article has no comments yet. Be the first to leave a comment.