THE latest community news from Lampeter

Cylch Cinio

AR nos Iau, 5 Hydref, cynhaliwyd cyfarfod cyntaf tymor 2017/18 Cylch Cinio Llanbedr Pont Steffan.

Y llywydd eleni yw Richard Marks. Wele gyd-ddigwyddiad hapus iawn gan ei dad, yr Athro Marks oedd llywydd cyntaf y cylch pan sefydlwyd ef rhyw 50 mlynedd yn ôl.

Croesawodd ef y cwmni i’r fangre arferol sef y Clwb Rygbi.

Wedi cinio i blesio bol y mwyaf barus, cyflwyodd y llywydd ein siaradwraig wadd, Elin Jones, llywydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

Yn fuan daeth yn amlwg fod yn bwysicach iddi hi oedd cynyrchioli Ceredigion yn y Cynulliad ers y cychwyn.

Cawsom ganddi amlinelliad hynod ddiddorol o’i gyrfa ym myd gwleidyddiaeth.

Dechreuodd hyn oll yn yr ysgol yn Llanbed pan enillodd yr etholiad dros y Blaid Geidwadol o bob peth.

Eglurodd ar unwaith mae efelychu hen ewythr iddi sef J M Evans oedd y rheswm tu ôl i hyn.

Tra’n astudio gradd bellach, cwympodd mewn cariad â Phlaid Cymru.

O fewn dim amser, fe’i hetholwyd yn aelod o Gyngor Tref Aberystwyth ac yn nes ymlaen yn faeres. Mwy byth oedd ei nôd a’i chyrraedd.

Pan wawriodd y dydd tyngedfenol “a good morning for Wales” fe’i dewisiwyd i gynyrchioli Ceredigion. Dewis hynod ddoeth fel y gwyddom erbyn hyn.

Yn ystod cyn newidiadau yng nghyfansoddiad y Cynulliad, fe ‘i dyrchafwyd yn Weinidog Amaeth.

Arswydus ond diddorol dros ben oedd ei chlywed yn sôn am yr amryw broblemau dyrus a’i gwynebodd yn ystod y dyddiau cynnar.

Eu datrys yn ddi-ffael a wnaeth Elin.

Erbyn heddiw, daeth dyrchafiad pellach.

Yn nhermau ysgol, mae yn Brif Ferch Cymru ac yn llanw‘i lle.

Pleser mawr oedd sylweddoli mai er bod yn forwyn i’r Frenhines wrth ail agor y Senedd, ei milltir sgwâr sydd nesaf at ei chalon.

Yn ystod y diwrnodau diwethaf - cyfnod dathlu’r Cynulliad - codwyd ambell amheuaeth am ei werth.

Wel, mae’n gwbl sicr nad oes gan neb a wrandawodd ar Elin unrhyw amheuaeth o’i phwrpas a’i ddylanwad.

Mi fyddai colli’r bleidlais wedi bod yn drychinebus i Gymru.

St Peter’s Church

SUNDAY, 22 October: 8am, Holy Communion in English; 9.15am, Cymun Bendigaid. Holy Communion in Welsh; 10.30am, Holy Communion, bilingual; 2pm, ‘Pause for Hope’ – a non-denominational service for anyone whose life has been touched by cancer in any way.

If you’re a member of a club, society or group, send your news to [email protected]