THE latest community news from Lampeter
Capel Brondeifi
AR 8 Hydref y gweinidog oedd yn y pulpud, a Melda Grantham, ysgrifennydd yr enwad, yno ar 22 Hydref. Y Parch Alun Wyn Dafis gydiodd yn yr awennau eto ar y Sul canlynol.
Y gweinidog oedd wrth y llyw ar 5 Tachwedd yn ogystal, gyda gwasanaeth cymundeb, a phwyllgor y capel i ddilyn. Gohiriwyd y gwasanaeth ar 12 Tachwedd, gan nad oedd Diana Bianchi yn medru bod yn bresennol i’w gymryd.
Y Parch Goronwy Evans oedd yn y pulpud ar 19 Tachwedd a chyflwynwyd plethdorch i gofio am aelodau’r capel a gollwyd mewn rhyfeloedd.
Ar 26 Tachwedd y Parch Alun Wyn Dafis oedd nôl yn y pulpud a’i bregeth ar thema Cofio a Chof.
Ar 15 Hydref aeth criw o 36 o Frondeifi i ymweld â chartre’ yr emynydd, William Williams, ym Mhantycelyn, ger Llanymddyfri.
Bu Cecil a Cathryn yn tywys y criw o gwmpas fferm Pantycelyn, a Cecil yn adrodd hanes y pêr ganiedydd yn ddeheuig iawn.
Ymlaen wedyn i Eglwys Llanfair ar y Bryn, lle cafodd Williams ei gladdu. Yno cafwyd darlith anffurfiol, ond hynod ddiddorol, gan Dai Gealey.
Roedd hi’n amser bwyd wedyn, a chafwyd pryd arbennig yng Ngwesty’r Castell, Llanymddyfri, cyn troi am adre’. Diolch i’r Parch Alun Wyn Dafis a Meinir Evans am drefnu diwrnod i’w gofio.
Ym mis Hydref, bu farw Gerallt Evans a gafodd ei fagu yn yr Ysgol Sul ym Mrondeifi.
Roedd Gerallt yn aelod o un o hen deuluoedd y capel – teulu Drefach House. Yn yr 1970au a’r ‘80au, treuliodd gyfnod yn gweithio yng nghanolbarth Lloegr cyn dychwelyd i Lanbed i setlo. Dros y blynyddoedd diwethaf roedd ei iechyd wedi dirywio. Cydymdeimlwn gyda’r teulu yn eu colled.
Yn ystod y gwasanaeth ar 26 Tachwedd cyflwynodd y Parch Goronwy Evans rodd o £2,000 i’r capel oddi wrth Siop y Smotyn Du.
Diolch yn fawr i Goronwy a Beti, a’r holl wirfoddolwyr, am eu gwaith caled yn y siop, a’r ymdrechion hynny yn golygu fod y capel yn elwa yn sylweddol.
Ar ddydd Sul, 3 Rhagfyr, cynhaliwyd Cymanfa Garolau’r Urdd o dan arweiniad Rhiannon Lewis. O ganlyniad, nid oedd oedfa ym Mrondeifi yn y bore.
Ar ddydd Sul, 10 Rhagfyr, Ioan Wyn Evans fydd yn cymryd y gwasanaeth ac ar 14 Rhagfyr bydd noson gymdeithasol yn y festri a phryd bwyd Thai yn cael ei weini yng ngolau cannwyll. Bydd adloniant gan Fand Brondeifi ac aelodau y clwb ieuenctid. Bydd tocynnau ar gael cyn hir.
Cynhaliwyd digwyddiad tebyg y llynedd a bu’n dipyn o lwyddiant.
Y Sul canlynol, sef 17 Rhagfyr, bydd cwrdd cymundeb arbennig yn cael ei gynnal pan fyddwn yn dathlu y festri yn ‘dod i oed’ – ac yn cyrraedd 21 oed!
Mae ffilm yn cael ei pharatoi yn dangos yr hen festri yn cael ei dymchwel, a’r un newydd yn cael ei chodi. Bydd cyfle wedyn i fwynhau cwpaned de a bisged neu ddwy yng nghwmni ein gilydd.
Ar Noswyl Nadolig, am 5yh, cynhelir gwasanaeth carolau gyda Band Brondeifi ac eitemau gan rai o’r bobol ifanc.
Ar fore Nadolig bydd y Parch Alun Wyn Dafis yn cymryd gwasanaeth teuluol byr am 9.30yb. Mae hwnnw yn draddodiad pwysig ym Mrondeifi, a’n achlysur hyfryd fel arfer.
Dymuniadau gorau am Nadolig Llawen a Blwyddyn Newydd Dda i’r holl aelodau a ffrindiau’r capel – ac yn arbennig y rhai sy’n dioddef afiechyd neu wedi bod yn yr ysbyty yn ddiweddar.
St Peter’s Church
SUNDAY, 10 December: 8am, Holy Communion in English; 10.30am, Holy Communion (bilingual).
If you’re a member of a club, society or group, send your news to [email protected]







Comments
This article has no comments yet. Be the first to leave a comment.