THE latest community news from Lampeter
Shiloh a Soar
DYMA’r ail waith i’r Gymdeithas Ddiwylliadol drefnu cyfarfod i fwynhau a gwerthfawrogi dawn arbennig Bethan Phillips fel llenor.
Y tro yma, roedd ei phriod, John Phillips, wedi trefnu i’r gynulleidfa luosog a ddaeth ynghyd i ail fyw bywyd y cymeriad cymhleth o Drecefel, Tregaron - Joseph Jenkins a hynny yn cael ei bortreadu yn broffesiynol iawn gan yr actor Dafydd Hywel.
Ar ôl cael ei feirniadu a’i guro am ei fywyd oferedd a’i driniaeth o’i deulu, mi benderfynodd codi pac ac ymfudo i Awstralia.
Yn rhyfedd iawn, gadawodd yr orsaf yn Llanio ar 7 Rhagfyr 1868 i ddal y llong yn Lerpwl a ninnau yn cyfarfod 49 mlynedd i’r diwrnod ar 7 Rhagfyr 2017.
Cymrodd y daith ar y llong 87 diwrnod cyn cyrraedd Melbourne.
Er i fywyd Joseph Jenkins yn Awstralia fod yn anodd tu hwnt, gyda gwaith ac arian yn brin, llwyddodd i aros yno am dros 25 o flynyddoedd cyn i’w iechyd ddiriwio.
Penderfynodd ddod yn ôl i Drecefel yn 1895 ond bu farw yn 1898.
Cadwodd ddyddiadur manwl ac yr oedd yn dasg enfawr i Bethan ddod a stori y Swagman yn fyw i ni - yn wir, mae’r hanes yn fwy poblogaidd yn Awstralia nag yw yng Nghymru ac mae’r llyfr bellach allan o brint.
Mwynhâd pur oedd gweld yr hanes ar ffilm.
Roedd portreadu y Swagman yn ôl pob hanes yn un o uchafbwyntiau gyrfa Dafydd Hywel.
Gwelwyd ffilm hefyd o Bethan yn sôn am hanes yr hên Blasdy yn Peterwell a Goronwy yn cyfeirio mewn cyfweliad at hanes tref Llanbed a’i phobl.
Diolchodd y llywydd Philip Lodwig i John Phillips am wneud y trefniadau ac am brynhawn a erys yn hir yn y cof.
St Peter’s Church
SUNDAY, 24 December: 8am, Quiet Communion in English; 9.15am, Cymun Bendigaid (Holy Communion in Welsh); 10.30am, A simple Communion service for Advent 4; 4pm, Crib Service - for children and their families; 11.15pm, Midnight Communion.
Christmas Day: Family Celebration at 10am.
A chance for children to show off their presents
If you’re a member of a club, society or group, send your news to [email protected]







Comments
This article has no comments yet. Be the first to leave a comment.