THE latest community news from Lampeter

Cymdeithas Hanes

THE next meeting of Cymdeithas Hanes Llambed will take place on Tuesday, 16 January, at 7.30pm in the Old Hall of the University of Wales Trinity St David.

Lampeter resident John Phillips will present two short films entitled ‘Soldier George’, which is an interview with the last surviving Lampeter soldier of the Great War, and ‘A Swagman from Ceredigion’.

John Phillips is well known in the area as a former senior education officer.

Custard Queens

LAMPETER’S youngest WI, Custard Queens, is welcoming in February with an exciting evening of African drumming facilitated by Emmanuel Okuni Annang at the Victoria Hall on Sunday, 4 February, at 7pm.

It’s free to members and a donation of £4 would be appreciated from visitors.

You are welcome to join Custard Queens on the night (£41 for the whole year, refreshments, fun and friendship all included!)

Emmanuel moved to Wales in 2009 and has facilitated many drumming and dancing workshops.

He was born in Ghana and is keen to share his cultural heritage.

St Peter’s Church

SUNDAY, 21 January: 8am, Holy Communion in English; 10.30am, Morning Worship - bilingual.

Shiloh and Soar

CWRDD diwylliadol ar ddechrau blwyddyn oedd hanes y Plygain yma.

Dyma ddod i ganu a gweddïo ac i ddiolch am eni Iesu.

‘Ar gyfer heddiw’r bore yn faban bach, y ganwyd gwreiddyn Iesu faban bach’.

Arferiad llawer ardaloedd yn Gymru oedd dod cyn torriad gwawr i ganu y Plygain.

Emynau arbennig oeddynt fel Dafydd Jones o Gaio, Wele cawsom y Meseia a hefyd canrifoedd gynt gan Rowland Vaughan, Henfych lun, Fair Fendigedig.

Hanes am ddod i’r plygain, erbyn 6yb yn llyfr diweddaraf Patrick Thomas i ganu gyda’r ceiliog cyntaf.

John Phillips yn arwain, Twynog yn rhoi esamplau o partïon yn canu, fel Fronheulog a Cut Lloi a David Lloyd.

Ysgol Sul Noddfa

YN dilyn wythnosau o baratoi, siom i bawb oedd clywed am y penderfyniad anorfod i ohirio Dathliadau Nadolig Noddfa oherwydd yr eira.

Er gwaetha’r anhawsterau, penderfynwyd ail drefnu ar nos Fercher, 20 Rhagfyr, a braf oedd gweld cynulliad teilwng iawn wedi dod ynghyd i wasanaeth arbennig yng ngofal yr Ysgol Sul wedi ei lunio gan Janet gyda 28 yn cymryd rhan.

Aeth y plant a’r bobl ifanc â ni ar daith i Fethlehem mewn pennill a chân â phawb o’r lleiaf i’r hynaf yn cyflawni eu gwaith yn ardderchog gan gyfleu gwir ystyr y Nadolig.

Roedd cymeriadau Drama’r Geni yn eu gwisgoedd traddodiadol a chyfoes yn wledd i’r llygad ac yn ychwanegu at fwynhad y gynulleidfa.

Fe’i portreadwyd fel a ganlyn - Mair: Cerys Angharad; Joseff: Sion Ifan; gwr y llety: Efan; Angylion: Lynwen ac Esther; doethion: Rhun, Tudur a Trystan Bryn; bugeiliaid: Elan, Beca, Trystan Wyn, Ifan a Cai.

Hefyd yn cymryd rhan oedd Lisa, Sioned, Ffion, Gwenllian, Dafydd, Osian Roberts, Sion ac Osian Jones ynghyd â saith o’r mamau.

Ychwanegwyd at lawenydd y Nadolig trwy gyfrwng darlleniadau o’r Beibl, gweddïau, unawdau, partion canu, adroddiadau heb anghofio sgwrs hwyliog y bugeiliaid a charol hyfryd y mamau a’r merched ifanc.

Fe’n swynwyd fel arfer gan gyfraniad y plant lleiaf mewn pennill a chân â phob un ohonynt wrth eu bodd yn dathlu Geni’r Iesu mewn ffordd mor naturiol a brwdfrydig.

Gwelwyd talentau’r Ysgol Sul ar eu gorau.

Datganodd Alun ddiolch haeddiannol i bawb am eu cyflwyniadau graenus iawn, i Alwena am ei gwasanaeth wrth yr organ ac i Elan, Sioned a Janet am eu cymorth hwythau, i Derek a Roy am baratoi’r llwyfan ac i Janet am ei gwaith trylwyr yn trefnu’r oedfa.

Fel gwerthfawrogiad o’i gwasanaeth diflino i’r Ysgol Sul ar hyd y flwyddyn cyflwynwyd rhoddion iddi gan Trystan Wyn, Ifan a Cai.

Wrth ddiolch, talodd Janet deyrnged uchel i’r plant a’r bobl ifanc am eu ffyddlondeb a’u teyrngarwch i’r Ysgol Sul ac i Llinos a’r rhieni i gyd am eu cydweithrediad a’u cymorth parod bob amser.

Ar ddiwedd y gwasanaeth pwy alwodd heibio ond Sion Corn, a bu’n brysur iawn yn cyflwyno anrheg i bob un o’r plant a’r bobl ifanc.

Hefyd diolchir yn gynnes i Alun ac Eifion am eu rhoddion caredig o ffrwythau i bawb eleni eto.

I ddiweddu noson bleserus a bendithiol mwynhawyd gwledd arall mewn te parti ardderchog wedi ei baratoi gan Llinos a’r mamau.

Mae’r bobl ifanc yn meddu ar dalentau arbennig mewn meysydd eraill hefyd.

Dewiswyd Beca Roberts i gynrychioli Cymru mewn cystadlaethau athletau yn yr Alban yn ddiweddar gan gyrraedd safon uchel iawn ac mae ei chefnder Sion wedi ennill Pencampwriaeth Prydain mewn rasus beiciau modur.

Hefyd mae Cerys Angharad wedi ei dewis i ganu’r delyn yng Ngherddorfa Prydain Fawr.

Llongyfarchiadau i’r tri ar eu llwyddiant ysgubol a phob dymuniad da i’r dyfodol.

If you’re a member of a club, society or group, send your news to [email protected]