THE latest community news from around Llan Ffestiniog.
Merched y Wawr
YN DDIWEDDAR, trefnwyd bod cyfarfod agoriadol mis Medi a’r cyfarfod olaf ym Mehefin wedi sefyll allan yn hanes Cangen Deudraeth. Doedd eleni ddim gwahanol i’r arfer.
Ar 20 Mehefin llogwyd bws a’i lenwi efo gwesteion o gangen Llan Ffestiniog a merched ein cangen ni.
I ddweud y gwir, tebyg iawn i drip ysgol Sul ers talwm a phawb wedi cynhyrfu, er welais i ‘run botel o ‘Corona’!
Dyna gychwyn am Lanbedrog ag Oriel Glyn y Weddw. Wel am le diddorol.
Yn ôl y sgwrs gan Gwyn Jones o’r Oriel codwyd y Plas ar gyfer gweddw teulu Plas Madryn yn 1833 ac yn ystod yr ail ryfel byd bu’n gartref i ferched o’r Land Army.
Efo hogiau’r RAF i lawr y lôn ym Mhenrhos, mi fuasai waliau’r Oriel yn gallu adrodd ambell i stori ddifyr dwi’n siwr!
Ond i Gwyneth a Dafydd ap Tomos mae’r clod o gychwyn y fenter a’i droi yn oriel yn 1979 gan agor yn swyddogol yn 1984.
Yn ystod 2004 daeth ugain mil o ymwelwyr dros y rhiniog i fwynhau’r lluniau a cherfluniau. Llynedd roedd y ffigwr yma wedi codi i 140,000. Dyna chi be dwi’n galw llwyddiant.
Ar ôl paned a chacen (gyda llaw, cacennau a scôns cartref bendigedig), yn ein blaenau i Nant Gwrtheyrn.
Clap mawr i’r dreifar am lywio’r bws yn ardderchog i lawr y rhiw i’r Nant ac yna ein gollwng yn heddwch a haul y pentref arbennig yma.
Hawdd deall y weledigaeth gafodd Dr Carl Clowes yn ôl yn y saithdegau yn troi’r pentref yn ganolfan i oedolion ddysgu’r iaith Gymraeg.
Bellach mae’r fenter wedi gorfod symud ymlaen fel pob sefydliad tebyg. Datblygwyd Caffi Meinir i gynnig bwyd ar gyfer priodasau ag achlysuron arbennig yn ogystal â bwydo’r dysgwyr sy’n mynychu’r cyrsiau.
Diolch i Matthew Penri am y sgwrs ddifyr ar ddatblygiad y Nant o’r dechrau hyd heddiw. Cafodd aelodau Llan a Deudraeth prynhawn a min nos hyfryd yn eistedd yng ngwres yr haul gan edrych draw at ogoniant Llyn a Phorthdinllaen. Be well.
Yna i mewn i fwynhau bwffe blasus iawn. Rhaid i ni gydnabod haelioni ‘Arian i Bawb’ yn rhoi grant tuag at yr ymweliad.
Roedd y diwrnod yn glo teilwng i flwyddyn o ‘Godi Calon’ yng nghwmni ein gilydd.
Diolch i’r swyddogion am eu gwaith caled, nid yn unig am drefnu’r trip, ond hefyd am yr holl drefniadau yn ystod y flwyddyn. Hei lwc y cawn eich gweld mis Medi nesa i ail gychwyn flwyddyn arall o weithgareddau.
If you’re a member of a club, society or group, send your news to [email protected]