THE latest community news from Llanafan.

Merched y Wawr

CYNHALIWYD helfa drysor y gangen ar nos Wener, 6 Mai ar noson gynnes, braf a heulog.

Gadawodd y ceir yn eu tro o Neuadd Lisburne ar ôl i’r gyrwyr dderbyn y cyfarwyddiadau a’r cliwiau.

Wrth deithio, bu’n rhaid cyfrif sawl poster gwleidyddol oedd yn dal i sefyll ar ôl etholiad y Cynulliad y diwrnod cynt, nifer y melinau gwynt a welwyd, ynghyd â llu o bethau eraill.

Aethwyd heibio i Brynarth a ffermydd oedd, i ambell un, yn gyfarwydd o ran eu henwau ond nid eu lleoliad, nes cyrraedd diwedd y daith ym Mronnant lle’r oedd swper blasus yn ein haros yn Nhafarn y Bont.

Bu tipyn o drafod ymysg ein gilydd ynghylch ein hymdrechion i ddatrys y cliwiau, a chafwyd hwyl a chwerthin croch pan ddarllenodd Hawys rhai o’r cynigion gwirion a roddwyd.

Y teithwyr yng nghar Glenda oedd yn fuddugol, o drwch blewyn. Diolchwyd i Hawys ac Eirian am drefnu’r helfa a chafodd bawb ddarn o deisen i ddathlu pen blwydd Mair, un o’r aelodau.

Yn dilyn glaw di-baid y diwrnod cynt, gwawriodd fore Sadwrn, 18 Mehefin yn fwy gobeithiol o ran cael tywydd sych ar gyfer ein taith ddirgel flynyddol.

Gyda phawb wedi ymgynnull, llywiodd Nerys y bws i’r de, ond cyn cyrraedd Llanrhystud dyma sefyll mewn cylchfan barcio, er nad oherwydd unrhyw drafferth gyda’r bws.

Roedd un o’n haelodau, Llinos, yn dathlu ei phen blwydd y diwrnod hwnnw - un o’r rhai arbennig hynny sy’n diweddu â 0 - ac roedd trefnwyr y daith wedi pobi teisen siocled er mwyn i ni gael cyflwyno ein cyfarchion iddi. Roedd un gannwyll ar y deisen ond methwyd â’i chynnu oherwydd doedd dim matsis gan yr un ohonom, ond canwyd pen-blwydd hapus i Llinos gydag arddeliad.

Ymlaen i Aberaeron, a chyfle i grwydro neu i gael paned, ac yna bant â ni i dref Aberteifi, lle’r oedd taith dywys o amgylch y castell wedi’i drefnu ar ein cyfer.

Roedd amser i ymweld â Castle House cyn mynd am bryd o fwyd a chrwydro o gwmpas y dref. Ar ôl ail-ymgynnull, gwibiodd y bws trwy gefn gwlad, a mawr oedd y syndod pan safodd y bws y tu allan i adeilad Cwmni Caws Caerfyrddin.

Fe’n croesawyd ni gan Mia Pearce, merch y perchnogion, a

roddodd ychydig o hanes y fenter a ddechreuodd 10 mlynedd yn ôl a symud i’r safle newydd ym mis Awst y llynedd.

Yna fe’n trosglwyddwyd ni i ofal ei thad, Steve Pearce. Trwy gyfrwng cyflwyniad PowerPoint cawsom wybod mai busnes teuluol yw’r cwmni a sefydlwyd gan Steve a’i wraig Sian Elin, y ddau â chryn brofiad yn y maes gan iddynt weithio i Dairy Crest cyn gweld bwlch yn y farchnad i’r math hwn o gynnyrch yng Nghymru.

Mae ganddynt berthynas gwaith agos gyda’r ffermydd lleol sy’n darparu eu llaeth, ac mae’r bwyd a gynhyrchir yn llysfwytäol heb unrhyw ychwanegiadau cadwrol.

Dyluniwyd y ffatri newydd gyda golwg ar fod mor ynni effeithiol ag sy’n bosibl, a chawsant nawdd gan y Cynulliad tuag at y gost o’i sefydlu. Yma cynhyrchir sawl math gwahanol o gaws; mae caws meddal Pont Gâr i’w gael fel caws glas neu wyn, gyda blas garlleg a pherlysiau neu fel caws mwg, tra cynigir dau fath o gaws Boxburgh, Boxburg Blue neu Boxburg Gold.

Mathau eraill o gaws a gynhyrchir yma yw caws traddodiadol Caerffili, caws gafr a chaws dafad (Corlan).

Pan ymddeolodd sefydlydd a pherchennog cwmni caws Llangloffan yn 2006, cymerwyd y gwaith drosodd gan gwmni Caws Caerfyrddin, a gwelsom ffilm o’r busnes gwreiddiol yn Llangloffan.

Ceir sawl dewis o gaws Llangloffan hefyd - gwyn, coch, gyda garlleg, cennin syfi neu gaws mwg.

Mae marchnad barod i gynnyrch cwmni Caws Caerfyrddin mewn nifer o archfarchnadoedd megis Tesco, Asda a Sainbury’s, ac fe’i gwerthir gan gyfanwerthwyr, siopau a thrwy sioeau fwyd y byd, ac mae’r cynnyrch wedi ennill gwobrau di-ri mewn sioeau bwyd. Allforir i Siapan, Sgandinafia, Dubai, ac o fis Awst bydd ar gael yng Nghanada.

Erbyn hyn roedd yn bryd i ni flasu’r cynnyrch ac roedd samplau wedi’u gosod ar fwrdd yn y cyntedd gydag amrywiaeth o ffrwythau a bisgedi, a chwpanaid o de neu goffi.

Plesiwyd pawb gan yr arlwy a barnu wrth y pecynnau o gaws a brynwyd yn y siop; diweddglo gwych i ymweliad diddorol dros ben.

Ymlaen â ni am awr o siopa yng Nghaerfyrddin cyn brysio’n newynog i Ffostrasol lle cawsom swper hyfryd.

If you’re a member of a club, society or group, send your news to [email protected]