THE latest community news from Llanafan

Merched y Wawr

DAETH yr aelodau’n llu i Festri Capel Afan nos Lun, 13 Tachwedd, i glywed gwr gwadd y noson, y milfeddyg Phil Thomas, Llandre.

Wrth ei gyflwyno, nododd ein cadeirydd, Wendy Crockett, mor gyfarwydd oedd Phil i bawb, nid yn unig oherwydd ei alwedigaeth ond hefyd ei gysylltiadau teuluol â’r ardal, yn enwedig â Phengrogwynion a Thanybwlch.

Cyfeiriodd hefyd at ei ddawn fel bardd, ac yn sicr, cawsom brawf yn ystod y noson o’i ddawn i drin geiriau yn ogystal ag anifeiliaid.

Gwibiodd yr amser heibio wrth i Phil ein tywys drwy hanes milfeddygaeth, gan egluro sut y sefydlwyd y coleg hyfforddi cyntaf, cyn drafod y newidiadau mawr a bu yn natur a threfn y gwaith ers y cychwyn yn y 18fed ganrif ac yn enwedig yn ystod y blynyddoedd diwethaf.

Diddorol oedd clywed mai ym 1922 y cymhwysodd y ferch gyntaf fel milfeddyg a bod cyfyngiadau arnynt tan ar ôl yr Ail Ryfel Byd.

Cawsom hefyd rywfaint o hanes Phil ei hun, sut y cyfarfu â’i wraig, Kate, sydd o Ogledd Iwerddon ond sydd wedi hen feistroli’r Gymraeg, a sut y bu i’r ddau dreulio cyfnod yng Nghambodia dan gynllun VSO a dod yn rhugl yn yr iaith Khmer hefyd!

Gorffennodd ei gyflwyniad gyda dyfyniadau difyr o lawlyfr cynnar Cymraeg ar filfeddygaeth. Diolchodd Hawys Hughes iddo’n gynnes iawn ar ran y Gangen, cyn inni barhau’r drafodaeth dros banad.

Paratoi ar gyfer y Nadolig y byddwn yn ein cyfarfod nesaf, nos Lun, 11 Rhagfyr.

If you’re a member of a club, society or group, send your news to [email protected]