THE latest community news from Llanarth

Eisteddfod

Cynhelir Eisteddfod Llanarth ar benwythnos 5 a 6 Hydref eleni.

Bydd cystadlaethau plant Ysgol Llanarth ar y pnawn Gwener fel yr arfer.

Yna ar y dydd Sadwrn, bydd yr adran agored yn dechrau am 2yp gyda chystadlaethau llwyfan i’r rhai sydd o dan 16 oed.

Cedwir y cystadlaethau gwaith cartref yr un peth ag arfer.

Er mwyn denu cynulleidfa gref a rhoi cyfle i bawb ymuno yn un o brif ddigwyddiadau blynyddol pentre’ Llanarth, penderfynwyd ail-strwythuro diwedd y steddfod, ac eleni byddwn yn gorffen y dydd gyda chystadlaethau ysgafnach, gyda thri tîm yn cystadlu yn erbyn ei gilydd – tîm Llanarth (pawb sydd â chyfeirad post Llanarth), tîm Mydroilyn (pawb sydd â chyfeiriad post Mydroilyn) a thîm ‘Gweddill y Byd’ (ie – pawb arall)! Felly, mae croeso i bawb gymryd rhan.

Bydd yna dri chapten yn cael y dasg o grynhoi’r timoedd at ei gilydd yn ystod wythnos y steddfod, pan fyddant yn derbyn rhaglen y cystadlaethau hwyliog.

Edrychir ymlaen at benwythnos llwyddiannus a llond hwyl, gyda neuadd llawn dop.

Testunau llenyddol eisteddfod

Mae croeso i bawb gystadlu yn y cystadlaethau llenyddol.

Y beirniad bydd Dwynwen Teifi a dyma’r testunau: Tlws yr Ifanc dan 25 oed – agored; Cerdd ddigri – Y Trip; Brawddeg – Pencae; Limerig – yn dechrau gyda ‘Draw i’r Cei aeth Dafydd i nofio’.

Bydd rhaglenni’r eisteddfod ar gael y mis nesa.

If you’re a member of a club, society or group, send your news to [email protected]