THE latest community news from Llanarth
Capel Pencae
CYNHALIWYD yr oedfa yn ddiweddar gan Enid Jones a rhieni plant yr Ysgol Sul.
Wrth yr organ oedd Elin Morgan.
Y roedd yna de blasus wedi’u paratoi gan yr aelodau a mamau’r plant.
Hefyd diod arbennig wedi cael ei baratoi gan Melda John o sudd ffrwythau.
Cyflwynwyd anrhegion i Enid Jones, a oedd wedi bod yn dysgu y plant yn yr Ysgol Sul ers 40 o flynyddoedd, hefyd Elin yn athrawes yr Ysgol Sul a chwarae organ yn yr oedfa.
Yn cyflwyno’r anrhegion oedd Isabel Jones (aelod hynaf y capel) a chafwyd ganddi araith arbennig.
Llongyfarchiadau i blant Ysgol Sul Pencae ar ennill Cwpan Denmor.
Dyma’r drydedd gwaith iddyn ei ennill.
Diolch i athrawon yr Ysgol Sul am eu hyfforddi.
Hefyd, llongyfarchiadau calonnog i Lowri Jones am ennill cwpan Cyfundeb Lerpwl am siarad cyhoeddus.
Clwb Cinio Llanina
THE next meeting will be held on Friday, 10 August, at 12.30pm.
There will be a talk given by MP Ben Lake. Any questions will be welcomed.
The dinner is held the second Friday of the month.
Eisteddfod
CYNHELIR Eisteddfod Llanarth ar benwythnos 5 a 6 Hydref.
Bydd cystadlaethau plant Ysgol Llanarth ar y prynhawn Gwener fel yr arfer. Yna ar y dydd Sadwrn, bydd yr adran agored yn dechrau am 2yp gyda chystadlaethau llwyfan i’r rhai sydd o dan 16 oed. Cedwir y cystadlaethau gwaith cartref yr un peth ag arfer.
Er mwyn denu cynulleidfa gref a rhoi cyfle i bawb ymuno yn un o brif ddigwyddiadau blynyddol pentre’ Llanarth, penderfynwyd ail-strwythuro diwedd y ‘steddfod, ac eleni byddwn yn gorffen y dydd gyda chystadlaethau ysgafnach, gyda thri tîm yn cystadlu yn erbyn ei gilydd – tîm Llanarth (h.y pawb sydd â chyfeirad post Llanarth), tîm Mydroilyn (h.y pawb sydd â chyfeiriad post Mydroilyn) a thîm “Gweddill y Byd” (pawb arall)! Felly, mae croeso i bawb gymryd rhan! Bydd yna dri chapten – Nerys Vobe (Llanarth), Wendy Jenkins (Mydroilyn) a Lowri Jones (Gweddill y Byd) - yn cael y dasg o grynhoi’r timoedd at ei gilydd yn ystod wythnos y steddfod, pan fyddant yn derbyn rhaglen y cystadlaethau hwyliog.
Edrychwn ymlaen at benwythnos llwyddiannus a llond hwyl, gyda neuadd llawn dop. Cadwch y dyddiad yn rhydd – a welwn ni chi ‘na!
Testunau llenyddol: Mae croeso i bawb gystadlu yn y cystadlaethau llenyddol. Y beirniad fydd Dwynwen Teifi a dyma’r testunau: Tlws yr Ifanc dan 25 oed – agored; Cerdd ddigri – Y Trip; Brawddeg – Pencae; Limrig – yn dechrau gyda – Draw i’r Cei aeth Dafydd i nofio.
Mae rhaglenni’r Eisteddfod agored ar gael nawr.
If you’re a member of a club, society or group, send your news to [email protected]




.png?width=209&height=140&crop=209:145,smart&quality=75)

Comments
This article has no comments yet. Be the first to leave a comment.