THE latest community news from Llanarth

Eisteddfod

CYNHELIR eisteddfod y pentref ar benwythnos 5 a 6 Hydref eleni.

Bydd cystadlaethau plant Ysgol Llanarth ar y prynhawn Gwener, yna ar y dydd Sadwrn, bydd yr adran agored yn dechrau am 2yp gyda chystadlaethau llwyfan i’r rhai sydd o dan 16 oed.

Cedwir y cystadlaethau gwaith cartref yr un peth ag arfer.

Er mwyn denu cynulleidfa gref a rhoi cyfle i bawb ymuno yn un o brif ddigwyddiadau blynyddol y pentref, penderfynwyd ail-strwythuro diwedd y steddfod ac eleni byddwn yn gorffen y dydd gyda chystadlaethau ysgafnach, gyda thri tîm yn cystadlu yn erbyn ei gilydd – tîm Llanarth (pawb sydd â chyfeirad post Llanarth), tîm Mydroilyn a Dihewyd (pawb sydd â chyfeiriad post Mydroilyn a Dihewyd) a thîm ‘Gweddill y Byd (pawb arall).

Bydd yna dri chapten yn cael y dasg o grynhoi’r timoedd at ei gilydd yn ystod wythnos y ‘steddfod, pan fyddant yn derbyn rhaglen y cystadlaethau hwyliog.

Bydd y cystadlaethau gwaith cartref hwyliog allan wythnos yma.

Mae croeso i bawb gystadlu yn y cystadlaethau llenyddol.

Y beirniad fydd Dwynwen Teifi a dyma’r testunau: Tlws yr Ifanc dan 25 oed – agored; Cerdd ddigri – Y Trip; Brawddeg – Pencae; Limrig – yn dechrau gyda: ‘Draw i’r Cei aeth Dafydd i nofio...’ Dyddiad cau: 29 Medi.

If you’re a member of a club, society or group, send your news to [email protected]