THE latest community news from Llanbadarn

Merched y Wawr

AR noson Calan Mai crynhôdd Merched y Wawr at ei gilydd ar ddiwedd tymor y gaeaf.

Bu Mair, y llywydd, yn rhoi cipolwg dros weithgareddau’r rhaglen.

Cawsom gyfle i ail-fyw taith dathlu’r hanner cant gyda gwên.

Yna soniodd am daith merch ifanc o Gaeo, Jane Evans, yn teithio gyda’r porthmyn i Lundain.

Bu’n gweithio yn Barnet ac oddi yno aeth i‘r Crimea.

Tra yno bu’n cyd-nyrsio gyda Florence Nightingale.

Drwy’r amser y bu’n crwydro cariau ei Beibl gyda hi a chyrraedd yn ôl yn ddiogel o Grimea i Gymru.

Ymlaen â ninnau at y tymor nesa.

Cafwyd adroddiad ariannol clir a threfnus gan Cath, y trysorydd a phenderfynu rhoi rhodd at ’Steddfod Ceredigion.

Buom yn trafod strwythir ein cyfarfodydd yn y dyfodol — newid neu sticio at yr hen drefn sydd wedi llwyddo yn gyson hyd yn hyn?

Dros swper fach ysgafn gwahoddodd Anne ni i fynd am wâc o dan ei harweiniad ym mis Mai.

If you’re a member of a club, society or group, send your news to [email protected]