THE latest community news from Llanddeiniol
Cymdeithas Ddiwylliannol yr Hebog
CAFWYD oedfa nodedig yng Nghapel Elim pan bontiwyd y canrifoedd trwy gyfryngau amrywiol a chyfoes er mwyn rhoi sylw i’r adeg pan anwyd yr Iesu.
Y preseb oedd canolbwynt y gwasanaeth a gydlynwyd yn ddeheuig gan Enfys Evans.
Plant ac ieuenctid y cylch arweiniodd yr ardalwyr ar y daith i Fethlehem.
Tybed a welodd yr hen allor yn Elim gymaint o fynd a dod mewn amser byr?
Cafwyd cyflwyniadau dramatig a defnyddiwyd cellwair yn effeithiol i ddenu sylw a diddanu’r gynulleidfa.
Pwy all anghofio am y ddau frawd anghydffurfiol yn y Sêt fawr gyda’r angylion anfodlon? Strôc o athrylith yn wir.
Llawenhewch oedd neges fyrlymus y gân i’r addolwyr niferus.
Plethwyd hyn â charolau a darlleniadau yn ogystal â delweddau ar sgrîn. Yr oedd cymeradwyaeth gyson y gwrandawyr yn ategu cyffro oesol yr hanes am ddyfodiad Iesu. Gwerthfawrogwyd hefyd gyfraniad amlwg y cyfeilydd sef Nerys Parry. Llwyddodd yr achlysur i grisialu gorfoledd G?yl y Geni.
Cadeirydd y gymdeithas, Beti Wyn Emanuel, lywiodd y gwasanaeth ar drydydd Sul yr Adfent. Gofynnodd yn daer am gyfraniadau tuag at Uned Cemotherapi Ysbyty Bronglais a chafwyd casgliad anrhydeddus. Aelodau’r gymdeithas ofalodd am y lluniaeth yn y festri wedi’r oedfa.
Os yw’r ardal hon yn ddi-Fugail bellach, erys corlan o gredinwyr i gynnal y ffydd a goleuo’r llwybr tra’n disgwyl dyfodiad gweinidog newydd.
If you’re a member of a club, society or group, send your news to [email protected]
Comments
This article has no comments yet. Be the first to leave a comment.