THE latest community news from Llanddeiniol
Naws y Nadolig
AR DRYDYDD Sul yr Adfent cafwyd orig o fwrlwm bro wrth i’r ardalwyr grynhoi ar gyfer dathlu Gwyl y Geni. Llwyddwyd i greu naws arbennig yng Nghapel Elim o ganlyniad i ymdrechion ac ymroddiad pobl o bob oed. Defnyddiwyd dulliau amrywiol a thrawiadol i gyfleu’r neges am ddyfodiad Iesu.
Plant ac ieuenctid oedd canolbwynt y sylw a threiddiodd eu hasbri i galonnau’r gynulleidfa.
Codwyd y cwestiwn; a yw’r Iesu ar goll yng nghanol yr holl ddathliadau ar yr adeg yma o’r flwyddyn.
Weithiau gofynnwyd y cwestiwn yn ddigon gogleisiol tra ar adegau yr oedd yn anesmwytho’r gwrandawr.
Dywedodd rhai o’r plant nad oedd baban yn y preseb ac ofer fu’r chwilio yn ôl eraill.
Maes o law cyhoeddwyd mai’r baban Iesu oedd yr anrheg orau a chanwyd ag arddeliad garolau fel Ganwyd Iesu ac O deuwch ffyddloniaid.
Ysgrifennydd Cymdeithas yr Hebog, Mary Parry, gyflwynodd yr apêl am gyfraniadau tuag at Uned Cemotherapi Ysbyty Bronglais yn Aberystwyth.
Cyflwynodd y Parch Nicholas Bee sylwadau gafaelgar a diolchwyd i drefnwyr y noson sef Enfys Evans a Nerys Parry.
Profodd yr oedfa bod angen presenoldeb plant yn ogystal â chefnogaeth gan grugyn o gredinwyr er mwyn sicrhau dyfodol llewyrchus i’r dystiolaeth Gristnogol yn y cylch.
Manteisiodd llawer ar y gwahoddiad i gymdeithasu a mwynhau danteithion tymhorol wedyn yn y festri.
If you’re a member of a club, society or group, send your news to [email protected]





Comments
This article has no comments yet. Be the first to leave a comment.