THE latest community news from Llanddewi Brefi

Treialon c?n defaid

CAWSOM ein bendithio â thywydd ardderchog eleni eto pan gynhaliwyd ein treialon ar 30 Awst ar fferm Gwyngoed Fach trwy garedigrwydd Mr a Mrs Eurug Pugh.

Yn ôl eu harfer bu’r teulu yn gwbl ymroddedig i greu awyrgylch hyfryd ar gyfer cymdeithasu yn ogystal â darparu popeth oedd yn angenrheidiol i sicrhau llwyddiant y treialon; defnydd o’u defaid ar gyfer y cystadleuwyr a hefyd y ddarpariaeth o luniaeth ysgafn gan Nerys ac Angharad ar gyfer pawb oedd yn bresennol.

Diolchir yn gynnes iddynt i gyd, a hefyd i Gwynne a Lynda Davies am ddefnydd o’u system sain.

Bu yna gystadlu brwd o’r bore cyntaf hyd yr hwyr, ac eleni eto ‘roedd yna elfen ryngwladol i’r treialon gyda chystadleuwyr nid yn unig o Gymru, Lloegr a gwledydd Ewrob, ond am y tro cyntaf un cystadleuydd o Siapan!

Diolchir i’r beirniad, John Lewis, Trefaes, gyda chymorth ei briod am roi o’u gwasanaeth.

Dyma’r enillwyr: Cenedlaethol – Cystadleuaeth Agored: 1 Lisa Hansson gyda Kimlock Nick; 2 David Evans, Nel; 3 David Evans, Lass; 4 Emyr Lloyd, Sal; 5/6ed David Evans, Tess a Lisa Hansson, Velvet.

De Cymru – Cystadleuaeth Agored: 1 Eirian Morgan, Nel; 2 Gwyn Davies, Bill; 3 D I Morgan, Chip; 4 Emyr Lloyd, Fly.

Cenedlaethol – Cystadleuaeth Nofis: 1 Lisa Hansson, Kimlock Nick; 2 Emyr Lloyd, Sal; 3 Lisa Hansson, Velvet.

De Cymru – Nofis: 1 Gwyn Davies, Bill; 2 D I Morgan, Chip; 3 Sheila Lews, York.

Y noson cynt, cynhaliwyd y Treial Bach, sef cyfyngedig i dalgylch o 10 milltir ar gyfer cystadleuwyr nofis, eto ar fferm Gwyngoed Fach.

Diolchir i’r beirniad, Ifan Gruffydd o Dregaron, gyda chymorth ei briod.

Canlyniadau: Nofis – De Cymru: 1 Elin Hope, Gilfachyfran, gyda Gyp; 2 Daniel Rees, Bwlchyddwyallt, Spot; Rhannu 3 a 4, Daniel Rees, Bwlchyddwyall, Nel a Elin Hope, Gilfachyfran, Meg.

If you’re a member of a club, society or group, send your news to [email protected]