THE latest community news from Llandysul
CyD
CAWSOM amser braf nos Fercher ddiweddaf yn sôn am ein hoff adeiladau. Diolch yn fawr iawn pawb. Bydd y cyfarfod nesaf ar nos Fercher, 20 Mawrth yng Ngwesty’r Porth am 7.45yh. Y thema fydd, ‘Siaradwch am eich hoff anifail’. Dewch â llun os ydych chi eisiau.
Gadewch i ni siarad gyda’n gilydd - mae gennych chi fis i baratoi!
Caws, gwin a chlonc
CYNHELIR noson caws, gwin a chlonc yn Nhafarn y Porth ar nos Wener, 5 Ebrill am 7.30yh. Bydd Dylan Iorwerth yn cadeirio panel o siaradwyr, sef Ben Lake AC, Canon Eileen Davies a Catrin Haf Jones. Noddir y noson gan Gomer. Mynediad drwy docyn yn unig (£7) ar gael o’r Porth, Siop Ffab, Siop Smotyn Du, Pregethwyr y Smotyn Du neu drwy ebostio: ymofynnydd@ outlook.com Bydd elw’r noson yn cael ei rannu rhwng elusennau MIND Cymru a Chanolfan Llys Pedr, Llanbedr Pont Steffan. Croeso cynnes i bawb.
Activity morning
AT the church hall on Saturday from 10am till 11am, suitable for all ages and free.
Llyfrgell
STORÏAU a chrefftau yn y llyfrgell ar fore braf o wanwyn yn ystod yr hanner tymor. Bydd y sesiwn nesaf ar ddydd Mawrth, 16 Ebrill am 11yb ar gyfer gweithgareddau’r Pasg a bore o storïau a chrefftiau gyda llyfr.
If you’re a member of a club, society or group, send your news to [email protected]







Comments
This article has no comments yet. Be the first to leave a comment.