THE latest community news from Llandysul

Merched y Wawr

CROESAWYD yr aelodau, gan gynnwys pedair aelod newydd, i gyfarfod cyntaf y tymor newydd gan Megan ein llywydd, cyn canu cân y mudiad.

Aeth ymlaen i longyfarch perthnasau yr aelodau a oedd wedi llwyddo mewn gwahanol arholiadau neu eisteddfodau yn ystod y gwyliau a dymuno yn dda iddynt wrth barhau ai haddysg neu symud i feysydd newydd. Aed ati wedyn i ddelio ar gohebiaeth oedd i law.

Yn anffodus ar fyr rybudd nid oedd ein gwestai yn medru bod yn bresennol oherwydd salwch, felly cafwyd noswaith o gemau a chymdeithasu. Ruth rhoddodd y raffl a Mary Williams fu’n lwcus. Ann, Mary a Jenny oedd yng ngofal y te.

Gadawsom ein man cyfarfod arferol ar gyfer cyfarfod mis Hydref, ac felly i ffwrdd â ni tua Llanpumsaint ac ymweld â Myrddin Heritage.

Menter yw hwn sy’n eiddo ac yn cael ei redeg gan Owen a Tanya Morgan lle maent yn gwneud selsig a byrgers o gig moch amrediad rhydd wedi ei magu ganddynt hwy.

Diolchwyd iddynt am eu croeso gan Megan.

Yna aethom yn ein blaenau am Dafarn Y Railway, Llanpumsaint.

Cawsom gyfarfod byr cyn mwynhau pryd blasus.

Megan roddodd ddiolch i’r Railway ac i Ron ac Oliver am yrru’r bysiau. Jean oedd enillydd y raffl, rhoddedig gan Megan.

Yna troi tuag adref â phawb wedi mwynhau y noswaith.

Cyfarfod blynyddol

CYNHELIR Cyfarfod Blynyddol Llandysul a Phont Tyweli Ymlaen Cyf yn Swyddfa Ymlaen, Hen Swyddfa Bost, nos Fawrth, 12 Tachwedd am 7yh.

Bydd cyfarfod cyffredinol yn dilyn am 7.30yh.

Croeso i bawb ymuno yn y cyfarfod hwn.

If you’re a member of a club, society or group, send your news to [email protected]