The latest community news from Llandysul

Library

A STORY telling session will be held at the library on Thursday, 20 February at 11am.

Join for stories and crafts for children of all ages.

Pancake morning

LLANDYSUL Church pancake and coffee morning will be held from 10am to 11am on Shrove Tuesday, 25 February.

Canu gwerin

NOSON canu gwerin yn yr Half Moon ar nos Wener, 28 Chwefror am 7yh - Sesiwn Werin y Felin.

Cylch Cinio

CYNHALIWYD cyfarfod mis Chwefror yng Ngwesty’r Porth.

Croesawyd pawb gan y cadeirydd Breian Teifi a gofynnwyd y gras gan John Gwesyn Evans.

Estynnwyd cydymdeimlad â theulu’r diweddar Barch Eric Roberts a fu’n aelod ffyddlon o’r Cylch Cinio yn ystod yr adeg a fu’n ficer yn ardal Llandysul.

Diolchodd Breian Teifi yn ddiffuant i Aled Jones am ei waith yn ystod ei amser fel cadeirydd.

Y siaradwr gwadd am y noson oedd Carwyn Greaves.

Afalau Cymreig oedd ei destun ac roedd clywed hanes yr afalau hyn yn ddiddorol iawn.

Iestyn ap Dafydd wnaeth ddiolch i Carwyn.

Derbyniwyd mantolen ariannol y Cylch am y flwyddyn 2019 a mynegwyd gwerthfawrogiad i Eirwyn Harries, sy’n ymddeol o’i swydd fel trysorydd, am ei waith diflino dros y blynyddoedd.

If you’re a member of a club, society or group, send your news to [email protected]