THE latest community news from Llandysul
Church Services
SUNDAY, 15 October - Llandysul: 8am, communion; 11am, communion.
Every Wednesday - Llandysul: 10.30am, communion.
Sunday, 5 November - Llandysul: 10.30am, confirmation service.
Coffee Evening
THE church coffee evening will be held on Thursday, 30 November, at Neuadd Tysul hall.
Cylch Cinio
CYNHALIWYD cyfarfod cyntaf y tymor hwn yn ôl yr arfer yng Ngwesty’r Porth, ar nos Lun, 3 Hydref, gyda dros 40 o aelodau yn bresennol.
Ar ddechrau’r cyfarfod, croesawyd pawb gan y cadeirydd, Keith Evans a phleser hefyd oedd cael croesawu aelod newydd i’r Cylch, sef Hefin Freeman o Fancyffordd.
Traddodwyd y gras gan Arwyn Pierce.
Cyn cyflwyno ein gwr gwadd am y noson, sef y Prifardd Ceri Wyn Jones, cyfeiriodd y cadeirydd at nifer o ddigwyddiadau ers ein cyfarfod diwethaf nôl ym mis Mawrth.
Estynwyd llongyfarchiadau i’r canlynol: Dai Lewis ar dderbyn medal aur yn Sioe Frenhinol Cymru am ei wasanaeth i amaethyddiaeth; Allen a Nesta Evans ar ddod yn ddatcu a mamgu i’w hwyr, Rhodri; John ac Ann Jones ar eu hymddeoliad o dafarn y Talardd; ac i Dafydd a Carys Llywelyn ar enedigaeth eu mab, Gwynfor.
Dymunwyd gwellhad buan i Glyn Lloyd yn dilyn llawdriniaeth yn ddiweddar ac roedd yn braf ei weld yn bresennol.
Estynwyd gydymdeimlad dwys â theulu Alwyn Davies, Drefach Felindre, a fu yn aelod ffyddlon o’r Cylch am nifer o flynyddoedd ac ar un adeg yn gadeirydd.
Fel y soniwyd eisoes, ein gwr gwadd oedd y Prifardd Ceri Wyn Jones, Aberteifi a chawsom amser hwylus iawn, yn llawn hiwmor yn ei gwmni.
Diolchwyd iddo gan yr is-gadeirydd, Aled Jones.
Enillydd y raffl, rhoddedig gan Arwyn Howell, oedd John Davies.
Y siaradwr gwadd yn ein cyfarfod nesaf, nos Lun, 6 Tachwedd, fydd Martin Roberts o Gastell Henllys, Sir Benfro.
Show meeting
THE Llandysul Show meeting will change to Wednesday, 18 October, at 8pm in the Porth.
Carnival
THE presentation of cheques will be on 16 November, at the Porth Hotel, to begin at 7.30pm and the AGM at 8pm.
If you’re a member of a club, society or group, send your news to [email protected]







Comments
This article has no comments yet. Be the first to leave a comment.