THE latest community news from Llanfarian

Merched y Wawr

YN ein cyfarfod diwethaf, pleser i Mair, ein llywydd oedd cael croesawu aelod newydd arall i’r gangen.

Bydd Cynthia yn hapus iawn ymhlith teulu‘r Merched.

Ond newydd trist oedd sôn am farwolarth Margaret Morgan.

Bu Margaret yn aelod byrlymus, â’i chyfraniad i’r gangen dros nifer o flynyddoedd i’w drysori.

Noson i roi cipolwg nôl at ein plentyndod oedd hon.

Cafwyd hwyl wrth edrych dros ysgwydd y blynyddoedd a rhannu atgofion personol.

Cafwyd galeri o greiriau a lluniau dwys a doniol, pob un â’i stori.

Pob atgof yn canu cloch a dwyn mwy o’i gwâl.

Beti Wyn ddiolchodd am noson sentimental ac yna’n gwahodd am baned wedi’i baratoi ganddi hi ac Ann.

Roedd hi’n noson gwerthiant pen bwrdd a bywiog fu’r prynu a’r gwerthu cyn rhannu gwobrau raffl i Marian, Mary, Brenda a Iona.

Bu’n noson i hybu cymdeithas glos cefen gwlad.

If you’re a member of a club, society or group, send your news to [email protected]