THE latest community news from Llanfarian

Merched y Wawr

PLESER oedd ymweliad â Llangwyryfon.

Anfonwyd dymuniadau gorau at Valmair am well iechyd, ac yna trodd Mair at ein gwraig wadd.

Pleser iddi oedd croesawu Diane Reynolds i’n plith.

Yng Nghomins Coch mae cartre Diane bellach, ond daeth yn wreiddiol o Nottingham.

Dysgodd Gymraeg a chymryd Cymru at ei chalon a phobol Cymru wedi‘i mabwysiadu hithau.

Deil Diane swydd uchel a chyfrifol yn y cynulliad. Mae’n gyswllt pwysig rhwng gweision sifil ac aelodau‘r cynulliad.

Maes tywyll anodd ei ddeall yw llywodraethu, ond llwyddodd Diane i’w ddehongli ryw ychydig i ni.

Diolchwyd iddi ar ein rhan gan Anne am roi o’i hamser ac egluro tipyn ar ei gwaith cymhleth.

Edrych ar eitemau â chysylltiad gyda Caerdydd oedd tasg nesaf Diane a barnodd y cyntaf i Cynthia.

Cofnodion am enedigaeth ei mhab bach yng Nghaerdydd oedd ganddi - capan bach cyntaf baban a breichled fechan iawn. Mair Jones ddaeth yn ail gyda hen gerdyn post wedi’i anfon o Gaerdydd.

Sgarff o liwiau prifysgol Caerdydd oedd gan Beti Wyn.

Mae cystadleuaeth yn ychwanegu at ddiddordeb pob noson - cyfle i dwrio yn y t? ac i rannu ambell eitem â’n gilydd.

Paned cyn troi am adre o law Eirwen a Jean ac estyn gwobr raffl i Cynthia a Eirlys.

If you’re a member of a club, society or group, send your news to [email protected]