THE latest community news from Llanfarian

Cymdeithas Ddiwylliannol yr Hebog

YMWELD â changen Aberystwyth o wasanaeth llyfrgell Ceredigion wnaeth yr aelodau ar noson agoriadol y tymor newydd. Lleolir y llyfrgell bellach yng Nghanolfan Alun R Edwards. Addaswyd yr adeilad a fu am gyfnod helaeth yn Neuadd y Dref er mwyn ceisio ymateb i ofynion gwahanol.

Camwyd dros y trothwy a chafwyd gair o groeso gan Beti Wyn Emanuel, cadeirydd y gymdeithas.

Ategwyd y croeso gan un o weithlu’r llyfrgell, Emyr Lloyd, a rhoddodd gyflwyniad cynhwysfawr tra’n sôn am swyddogaeth y llyfrgell.

Arweiniodd yr aelodau i gilfachau gwahanol gan egluro’r adnoddau amrywiol sydd ar gael i ddefnyddwyr. Darperir llyfrau mewn ieithoedd fel Arabeg a Phwyleg.

Diddorol oedd clywed bod gwas-anaeth llogi DVDs yn ffynhonnell incwm werthfawr ac arwyddocaol.

Crybwyllwyd am y bwriad i wella’r ddarpariaeth o lyfrau gan awduron lleol a pharodrwydd swyddogion y llyfrgell i ystyried rhoddion o lyfrau gan unigolion.

Cyfeiriodd Emyr Lloyd hefyd at y cynnydd amlwg wrth i bobl fanteisio ar declynnau hwylus y dechnoleg newydd er mwyn defnyddio adnoddau’r gwasanaeth llyfrgell.

Yr oedd ymateb yr aelodau wedi’r cyflwyniad yn brawf o’r blas a brofwyd yn ystod yr orig yn un o adeiladau amlwg Aberystwyth.

Cafwyd cyfle i gymdeithasu tra’n swpera yn y Fountain Inn yn Nhrefechan a gwerthfawrogwyd y trefniadau trylwyr a wnaed gan Ruth Evans.

Merched y Wawr Wythnos gyntaf mis Tachwedd oedd y noson cwis. John Jones o Ffair Rhos oedd y meistr cwis. Ar drothwy trwmgwsg y gaeaf beth sy’n well i hogi’r meddwl.Yn gynta’ cyn troi at y cwis estynnodd Nesta, llywydd y noson, groeso cynnes i Valmair. Bu Valmair yn anhwylus am sbel fach ond bellach mae hi’n holliach ac yn ail gydio gyda’r clwb. Pleser gan y Merched hefyd oedd croesawu Blodwen Jones o Rydyfelin. Edrychir ymlaen at gael ei chwmni eto drwy ‘r gaeaf.Roedd John Jones yn awyddus i fynd i’r afael â’i dasg a throi at y pentwr cwestiynau o’i flaen. Hedfanodd y noson heibio yn s?n hwyl a chwerthin o dan arweiniad ffraeth John a’i amrywiaeth o gwestiynau di-ben-draw . Tri thîm oedd yn yr ornest – tîm Blodwen, tîm Cath ac un Mary – a thîm Mary oedd yn fuddugol. Dora ddiolchodd i’r g?r prysur ar ein rhan —y ddau yn medru rhannu atgofion difyr . Dymunodd siwrne hwylus iddo adre i Ffair Rhos ac iechyd a llwydd ar ei ymddeoliad. Tamed i aros pryd fu hi a gobeithir y ceir cyfle eto yn fuan i daclo’r gweddill o’i stôr o gwestiynau . Brenda a Mair oedd wedi darparu cwpaned i’r aelodau â’r raffl yng ngofal Cath. Eirlys, Marian, John Jones ac Eluned fu’n lwcus ar y noson.If you’re a member of a club, society or group, send your news to [email protected]