THE latest community news from Llanfarian
Merched y Wawr
MAS i’r awyr iach fuodd y Merched yn eu cwrdd olaf ym mis Mai.
Dechreuwyd taith gerdded fer o orsaf yr heddlu gydag Anne yn awyddus i’n cyflwyno i fyd natur.
Wrth lwybro’n hamddenol ger glan afon Rheidol fe’n synnwyd gymaint o ryfeddodau oedd o’n cwmpas ar bob tu.
Roedd ‘na rywbeth neu’i gilydd i dynnu ein sylw boed yn flodyn, coeden, gwybedyn neu yn n?r yr afon.
Anelwyd at Lety Parc ac yno o gwmpas y bwrdd swper cafwyd cyfle i estyn gair o werthfawrogiad i Anne am drefnu ein taith gerdded ac yn bennaf am rannu o’i gwybodaeth fanwl am fyd natur.
Pan ddaw mis Mai daw taith Anne a “Gwyn fy myd bob tro y dêl”.
Cofiwyd am aelodau oedd yn absennol, a’n dymuniadau cynhesaf at Nesta a Joyce, ill dwy mewn ysbyty ar hyn o bryd.
Ond nawr edrychwn ymlaen yn hyderus at gydgerdded i’r dyfodol a chyd-gwrdd yn yr hydref o dan arweiniad tîm newydd.
If you’re a member of a club, society or group, send your news to [email protected]





.png?width=209&height=140&crop=209:145,smart&quality=75)

Comments
This article has no comments yet. Be the first to leave a comment.