THE latest community news from Llanfarian.

Merched y Wawr

NOSON olaf mis Tachwedd a’r hin yn oer a rhewllyd i fentro mas. Ond edrychai’r aelodau ymlaen at gael cwmni Sandra Morris Jones. Braint i ni yw cael ei chwmni gan mai hi yw llywydd cenedlaethol y mudiad ac wrth gwrs yn ddynes a chanddi alwadau fil. Cawsom ganddi gipolwg ar hanes ei bywyd a’i diddordebau. Roedd ei chariad at ei bro enedi-gol yn amlwg. Merch ffarm o Sir Faesyfed yw hi, lle na chlywid gair o Gymraeg.Ond buan y daeth i ddysgu ac i garu‘r iaith. Allan o’i chwdyn swmpus tyn-nodd enghreifftiau diddorol yn darlunio taith ei bywyd a’i did-dordebau. Yn eu plith ei gwaith llaw rhyfeddol.

Pinacl ei thrysorau oedd y faner unigryw a wnaed gan aelodau‘r mudiad i gofnodi eu balchder ohoni. Baner bersonol i Sandra i’w hongian yn falch ar wal ei chartre. Cafwyd cyfle i ddod i nabod Sandra yn well ac i garu ei bwrlwm heintus at fywyd - braint yn wir. Ar ein rhan pleser i Brenda oedd cael dymuno blwyddyn newydd arbennig iddi yn ei swydd fel ein llywydd cenedlaethol. Daeth Luned a Jean a chwpaned i’r bwrdd tra’n rhannu gwobrau raffl.Yna cawsom fwrw golwg dros hen luniau o’r gangen a dwyn atgofion am ffrindiau gynt.

If you’re a member of a club, society or group, send your news to [email protected]