THE latest community news from Llanfarian.
Merched y Wawr
MAE hi’n ganol mis bach a’r nosweithiau yn oer a thywyll ac angen pelydr o heulwen i’n cynhesu. A phwy ddaeth i’r adwy ond Lyn Ebenezer. Medd Lyn y ddawn i weld yr ochor ddoniol i fywyd, felly mae ei atgofion a’i straeon am bobol y Bont yn byrlymu o hiwmor iach. Ac fe’i rhannodd nhw â ni.
Wedi tynnu ei gap aeth ati i agor ei gyfrifiadur a’i atgofion. Roedd yn un o 13 o blant gyda llyfrau yn rhan bwysig o’r aelwyd. Mae gan Lyn drysor o atgofion am gymeriadau lliwgar, unigryw oedd yn plethu drwy ei ieuenctid. Wrth eu rhannu â ni yn ribidires roedd y neuadd yn atseinio gan lond bol o chwerthin yr aelodau. Yn ystod ei waith fel newyddiadurwr cafodd gyfle i adnabod pobol arbennig. Richard Burton oedd un ohonynt.Y dyn ffeindia erioed oedd ei farn amdano wrth sgwrsio yn Gymraeg drwy brynhawn cyfan yn ei gwmni. Mae Lyn yn dal i gael cyfle i adnabod llawer un wrth gydweithio fel awdur i gyhoeddi eu hynangofiant.Cyhoeddwyd 95 o’i lyfre eisoes ac un arall ar y gweill. Mae’n amcangyfri iddo sgwennu dros dair miliwn o eiriau, a heddi os na fydd yn sg-wennu mil o eiriau y dydd ma ‘na rywbeth o’i le.
Wrth ddiolch iddo ar ein rhan, roedd Dora yn falch i fedru rhannu ei hatgofion gyda Lyn am rai o’r cymeriadau ac i ddymuno llwyddiant iddo eto. Wedi estyn gwobr raffl i Margaret Morgan a Dora, daeth tasg arall i’n gwr gwadd. Ar y bwrdd o’i flan roedd bwndel swmpus o ddiarhebion. Wedi‘u dethol dewisodd ddihareb Iona a Brenda.
Dros gwpaned Brenda a Mair Jones cawsom gip o luniau Lyn yng nghwmni enwogion yn ystod ei yrfa, ond efalle mai llun Dadcu gyda’i wyrion bach yw ei ffefryn.
If you’re a member of a club, society or group, send your news to [email protected]






Comments
This article has no comments yet. Be the first to leave a comment.