THE latest community news from Llanfarian

Merched y Wawr

Mae tymor newydd ar droed a stafell gefn y neuadd yn ddiddos tu hwnt i groesawu aelodau ar noson aeafol.

Yng nghwmni Gwyn Davies cafwyd orig ddifyr yn edrych ar fywyd William Williams yr emynydd. Dros 300 mlynedd mae wedi cael ei adnabod o dan wahanol enwau, sef Yr Hen Bant, WW, Pantycelyn, Williams, a hyd yn oed W.

Wrth olrhain hanes ei fywyd yng nghwmni Gwyn fe ddaeth y criw i’w adnabod eto o’r newydd.

Cafwyd gip fach ar agweddau llai amlwg ei fywyd a’i gymeriad. Heblaw am ei emynau toreithiog sgrifennodd lyfr o gynghorion am briodas, taith y pererin Theomemphus, a cherdd i’w wraig Mali yn ei gwerthfawrogi a’i chanmol i’r cymyle. Tystiau Gwyn mai William Williams yw emynydd mwyaf y byd i gyd. Un o feirdd mwyaf y byd, eto yn Gristion bach syml.

Ei hoff emyn yw:

‘Dyma gyfarfod hyfryd iawn,

Myfi yn llwm a’r Iesu ‘n llawn.’

Pleser gan Nesta oedd cynnig diolch iddo ar ein rhan. Credai Nesta y byddai ei ddull cynhesol o gyflwyno’r emynydd yn ennill ieuenctid drosodd i ddod at Grist.

Cystadleuaeth y noson oedd unrhyw beth yn gysylltiedig â Phantycelyn. Mwynhaodd Gwyn y dasg o bwyso a mesur a dewis yr enillydd. Dychmygai fod ar ben ei hunan ar ynys bellennig. Ei ddewis yn gwmni iddo yno fyddai cyfrol swmpus Anne am WW. Ei ail ddewis oedd eitem ddiddorol Brenda ac yn drydydd darlun o dy fferm Pantycelyn wedi’i fframio gan Mair J.

Mair hefyd ddaeth i frig y pwyntiau am gystadlu llynedd.

I gloi noson lawn diddordeb paratodd Brenda a Mair gwpaned i ni. Rhannwyd gwobrau raffl i Nesta, Luned a Dora .

Yn achlyrusol cynhelir gwerthiant pen bwrdd. Y tro yma roedd y bwrdd yn orlawn o amrywiaeth i’w gwerthu a’u prynu i helpu i lenwi’r gôd i’r gangen. Fuodd hi ddim chwynciad cyn i’r bwrdd wagu a’r prynwyr yn gadael am adre yn ddigon bodlon.

If you’re a member of a club, society or group, send your news to [email protected]