THE latest community news from Llanfarian
Merched y Wawr
SAUDI Arabia, enw dieithr, gwlad ddieithr i bob un ohonom ni.
Ond i Diane Smith mae’n wlad gyfarwydd oherwydd iddi fyw yn Saudi Arabia am 11 blwyddyn.
Bu Diane yn byw a gweithio i rai o deulu brenhinol y wlad.
Dysgu a gofalu am y plant oedd ei dyletswydd yno ac yn cael ei derbyn fel un o’r teulu.
Roedd ei lluniau yn dweud y cwbwl am gyfoeth a moethusrwydd eu ffordd o fyw.
Mwslemiaid oeddynt a dilyn y Koran yn bwysig bob dydd.
Gwelsom rai o’u dillad arbennig ar gyfer priodas, dawnsio, addoli yn y Mosg neu gwrdd ag aelod o’r teulu brenhinol. Pob dilledyn wedi ei oreuro âg aur neu arian pur.
O’r bwrdd llwythog dewisodd Diane rai trysorau o’u ffordd o fyw foethus sydd mor ddieithr i ni.
Derbyniodd Diane bob parch a chariad yn eu plith ac mae ganddi lond côl o atgofion melys o’i blynyddoedd yno.
Pleser i Jean oedd cael diolch i Diane am rannu‘r atgofion â ni.
Cyn troi am adre i Ben y cae, Llanarth tasg fach bleserus arall iddi oedd beirniadu ein tusw fechan o flodau sych.
Dyfarnodd hi mai un Margaret oedd y gorau, Anne yn ail a Nesta yn drydydd.
Gwobrau raffl i Cath, Luned, Dora a Margaret.
Paned o law Valmair a Mary i gloi noson tu hwnt o ddifyr.
If you’re a member of a club, society or group, send your news to [email protected]






Comments
This article has no comments yet. Be the first to leave a comment.