THE latest community news from Llanfarian

Cymdeithas Ddiwylliannol yr Hebog

GWYBODAETH am yr adnodd cenedlaethol gwerthfawr, Casgliad y Werin, gafodd yr aelodau yn ystod noswaith yn Festri Carmel, Llanilar ar 8 Chwefror.

Trefnwyd yr achlysur gan y gymdeithas ddiwylliannol leol a braf hefyd oedd cael cwmni aelodau o Gymdeithas Bwlchgwynt, Tregaron.

Meirion Davies estynnodd y croeso cynnes swyddogol yng nghlydwch y festri wrth i gawodydd cyson darfu ar gerddwyr a theithwyr.

Ariennir Casgliad y Werin gan Lywodraeth Cymru a rhoddodd Berian Elias fraslun o’r fenter. Amgueddfa Cymru, Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru a’r Llyfrgell Genedlaethol yw’r tri sefydliad sy’n gyfrifol am ddarparu’r cynllun. Nod Casgliad y Werin yw adrodd stori Cymru a’i phobl trwy gyfryngau amrywiol fel dogfennau a lluniau.

Mae Berian Elias yn aelod o’r tîm sy’n gweithio yn y Llyfrgell Genedlaethol. Ennyn diddordeb ac annog pobl i fod yn rhan o’r bwrlwm yw rhai o ddyletswyddau’r gwr o Chwilog. Cafwyd cyflwyniad cynhwysfawr ganddo i’r wefan, www.casgliad <http://www.casgliad> y werin.cymru ac amlinellodd dair elfen sylfaenol, sef darganfod, cyfrannu a rhannu. Diddorol oedd y cyfeiriad at y mapiau amrywiol sydd ar gael. Cafwyd cip ar rai dogfennau a gofnodwyd eisoes yn yr oriel dan benawdau fel Llanfarian, Llanilar a Thregaron. Gall y deunydd bontio degawdau’r gorffennol yn ogystal â chofnodi’r presennol. Yfory bydd heddiw yn ddoe, defnyddiodd y wireb er mwyn pwysleisio nad oes cyfyngiad ar gyfnod nag amser.

Wedi’r cyflwyniad darparwyd lluniaeth gan aelodau o Gymdeithas Carmel a gwerthfawrogwyd y danteithion gyda’r hwyr tra’n cymdeithasu. Brenda Baigent ddiolchodd ar ran aelodau Cymdeithas yr Hebog wedi noson pan brofwyd arwyddocâd y wefan sy’n cofnodi hanes a threftadaeth Cymru.

Merched y Wawr YNG nghyfarfod cyntaf o’r mis, enwau ffermydd ‘slawer dydd aeth a’n bryd.Wrth dynnu ar adnoddau ein haelodau, cawsom gyfle i ymweld â llawer sir a llawer ardal.Clywsom yn ardal Llanberis am ddyn a oedd â’i garedigrwydd a’i gymwynasau mor niferus fel y daethpwyd i’w adnabod fel “Good man”. Er bod llawer canrif wedi mynd heibio ers hynny deil yr enw Stryd Goodman yno o hyd.Sir Feirionnydd oedd ardal enedigol arall â’i hanes unigryw yn ardal Mary Jones. O Geredigion clywsom atgofion o lawer ardal a threio dyfalu ystyr yr enwau hynod.Llifau‘r atgofion yn rhwydd a phleserus yn ein plith a hedfanodd yr amser.Daeth y noson ddifyr i ben dros gwpaned Eirlys a Iona. Estynnwyd gwobrau raffl o flodau‘r gwanwyn i Mary a Marian a diolchwyd i Beti Wyn am y cyfle i godi cwr y llen ar ein hatgofion o enwau llefydd rhyfeddol cefen gwlad Cymru.If you’re a member of a club, society or group, send your news to [email protected]