THE latest community news from Llanfarian
Merched y Wawr
MAE hi’n tynnu at ddiwedd tymor cangen Merched y Wawr Llanfarian a’r cylch.
Roedd Beti Wyn, y llywydd eleni, am achub ar y cyfle i ddiolch i’r aelodau am eu cefnogaeth iddi hi ac Anne gydol y flwyddyn.
Wedi ysbaid yn trafod materion y gangen, aed ati i ethol swyddogion newydd.
Llwyddwyd i ddewis tîm cadarn fydd yn sicrhau dyfodol hapus i ni.
Roedd Kath ein trysorydd wedi paratoi cyflwyniad clir a thrwyadl.
Mae arian yn y gôd a chyfle i gefnogi gweithgaredd lleol.
Rhaid i ni hefyd gadw mewn cof fod yr Eisteddfod Genedlaethol wrth y drws!
Unwaith yn rhagor ar ein rhaglen bydd Anne yn trefnu taith gerdded i ni a swper yn dilyn.
Pleser pur wedi gaeaf hir a chaled fydd mynd am wâc yng nghwmni Anne ar noson o Wanwyn ym mis Mai.
Ym mis Mehefin bydd tîm eiddgar o’r Merched yn mynd â ni a Hebog ar wîb — i ble tybed ?
Roedd hi’n noson gwerthiant pen bwrdd, felly cyfle i brynu a gwerthu‘r nwyddau blasus dros baned a sgwrs cyn ymadael.
If you’re a member of a club, society or group, send your news to [email protected]







Comments
This article has no comments yet. Be the first to leave a comment.