THE latest community news from Llangwyryfon

Cymdeithas Tabor

TREULIWYD noson agoriadol y gymdeithas yng nghwmni’r delynores ddawnus Heledd Ifan Davies, Coedllys, Llanilar.

Roedd wedi dod â dwy delyn ganddi ac yn falch o fedru dweud i’r ddwy gael eu gwneud yng Nghymru.

Clywsom rai alawon cyfarwydd a rhai newydd gyda threfniannau unigryw Heledd ei hun. Roedd yn noson hwyliog hyfryd iawn.

I ddilyn yr adloniant cafodd pawb y bwyd bendigedig arferol. Cyflwynwyd a diolchwyd gan Eleri Hughes.

Merched y Wawr

YNG nghyfarfod mis Hydref, cyflwynwyd ni i siop gymharol newydd yn Nhregaron sef ‘Anrhegaron’.

Roedd y perchnogion, David a Nerys Bennett, wedi dod â nifer helaeth o nwyddau’r siop gyda nhw.

Ond i ddechrau cawsom dipyn o hanes y cefndir, pan oedd y siop bresennol yn swyddfa bost bwysig, gyda swyddfa ddosbarthu yn rhan ohoni. Ar adegau prysur, fel y Nadolig, byddid yn gwagio’r blwch postio tu allan ddwy neu dair gwaith y dydd.

Ar ôl y braslun diddorol hwn gan David, arweiniodd Nerys ni trwy gyfres o ddarluniau yn dangos datblygiad y siop fel ag y mae nawr â’r nwyddau a werthir yno â’r gwaith ysgythru crefftus a gynllunnir ac a gyflawnir gan David.

Roedd cangen MyW Llanfarian wedi ymuno â ni a chafodd pawb gyfle i edrych ar anrhegion y siop cyn troi at y wledd o fwyd a baratowyd gan ferched y gangen. Trefnwyr y noson oedd Carol Tandy a Beryl Jones.

Clwb Croeso

UN o’n hoff siaradwyr ddaeth yn ôl atom y mis hwn, sef Mary-Ann Constantine o Drefenter.

Y pwnc dan sylw oedd baledi yn y Llydaweg, gan gysylltu â’r llyfr ‘Miracles and Murders’, sy’n gasgliad o faledi.

Dilynodd y stori yn rhai o’r baledi yn ei ffordd frwdfrydig ei hun gan ein tynnu ni gyda hi i orffennol rhyfedd ac ofnadwy. Ond eto y gellid eu cysylltu â’r presennol. Ar ffurf lafar fel hyn y cedwir y traddodiad Llydewig yn fyw.

Mae gwybodaeth Mary-Ann am ei phwnc, pa bynnag agwedd sydd dan y chwyddwydr ar y pryd, bob amser yn destun o ryfeddod. Cyflwynwyd a diolchwyd gan Mike Warren.

If you’re a member of a club, society or group, send your news to [email protected]