THE latest community news from Llangwyryfon
Clwb Garddio
Cyflawnodd Donald Morgan dri gosodiad mewn byr amser wrth drafod clwstwr o ddail a blodau gyda’r aelodau.
Roedd y cyntaf mewn amlinelliad o ffenestr eglwysig ac yn cynnwys blodau gwyn, a’r ail yn fwy traddodiadol Nadoligaidd gyda blodau coch. Arbrawf oedd y trydydd, o dan y teitl ‘Dawnsio ar Iâ’, yn cael ei baratoi ar gyfer y Ffair Aeaf.
Merched y Wawr
noson o weithgaredd ymarferol a gafwyd yng nghyfarfod mis Tachwedd gydag Enfys Evans o Landdeiniol yn dangos i aelodau sut i wneud cracer Nadolig.
Roedd wedi darparu popeth ar eu cyfer. Y cyfan oedd angen iddynt fynd gyda hwy oedd morthwyl. Roedd pawb yn ceisio dyfalu ymlaen llaw pam oedd angen morthwyl! Yr ateb oedd ei fod i’w ddefnyddio gyda hoelion i wneud tyllau mewn motiff Nadoligaidd fel y gellid pwytho patrwm arno. Cafwyd llawer o hwyl a llwyddodd pawb i fynd â chracer orffenedig adref.
Clwb Croeso
LLUNIAU hanesyddol oedd maes arbenigedd y siaradwr gwadd William Troughton, y llyfrgellydd sydd â gofal y lluniau yn y Llyfrgell Genedlaethol. Mae’n ffotograffydd hefyd ac wedi mynd ati i ail-ddarlunio nifer o adeiladau a strydoedd Aberystwyth o’r un safbwynt â’r darlun gwreiddiol er mwyn medru cymharu’r hen â’r diweddar.
Roedd rhai sefyllfaoedd, fel tu blaen i’r orsaf a’r rhes o siopau bach fu yno, wedi newid llawer iawn, a rhai eraill, fel strydoedd cefn, heb newid gymaint. Wrth fynd trwy’r lluniau cafwyd ffeithiau bach diddorol a gwybodaeth ychwanegol o’r stôr o wybodaeth hanesyddol oedd gan y siaradwr. Roedd nifer o’r gynulleidfa yn cofio’r Ysbyty yn Heol y Gogledd, pan oedd dwy res a’r hen gapel ar waelod Stryd y Baddon.
If you’re a member of a club, society or group, send your news to [email protected]





.png?width=209&height=140&crop=209:145,smart&quality=75)

Comments
This article has no comments yet. Be the first to leave a comment.