THE latest community news from Llangwyryfon

Cymdeithas Tabor

AR ddechrau mis Chwefror aeth y gymdeithas i ymweld â gweithdy Rheilffordd Cwm Rheidol, neu’r ‘trên bach’. Cafwyd croeso gan y rheolwr, Ll?r ap Iolo ac yna gyflwyniad gan un o’r staff yn rhoi hanes y rheilffordd a’i datblygiad dros y blynyddoedd. Diolch am gyfres o luniau ar sgrin i’n helpu ni i ddychmygu’r fath newidiadau ysgubol. Yna cawsom ein tywys trwy’r gweithdy lle cedwir yr injans a Ll?r yn barod iawn i egluro pob peth ac ateb cwestiynau.

Synnwyd pawb gan faint yr adeilad oddi mewn, maint yr injans a phob peth yn ymwneud â nhw, a maint y gwaith sy’n mynd ymlaen yno. Mae prentisiaid yn cael eu hyfforddi yno a disgyblion o Benglais a Phenweddig yn cael profiad gwaith bob blwyddyn. Mae’r rheilffordd yn un o atyniadau pwysicaf yr ardal ac wedi denu bron 60 mil o deithwyr y llynedd. Yn ogystal â hyn mae staff y gweithdy wedi adeiladu enw da am safon eu gwaith a bellach yn gwneud gwaith trwsio injans i gwmnïau eraill. Mae nifer o ddatblygiadau cyffrous ar y gweill gan gynnwys ehangu’r fynedfa, platfform newydd, cael cerbydau addas i’r anabl ac ehangu’r amgueddfa drenau. Daethom oddi yno wedi cael agoriad llygad yn wir. Diwedd y mis daeth Eirian Jones o Bencader i siarad â’r gymdeithas. Mae ef yn gwirfoddoli gydag elusen Diabetes UK ac yn teithio o gwmpas yn codi ymwybyddiaeth o’r clefyd.

Cawsom wybodaeth fanwl o symptomau’r ddau fath o ddiabetes a sut y gellir dysgu byw gydag ef. Roedd yn syndod clywed bod mwy o bobl yn dioddef oddi wrth y clefyd hwn nag oddi wrth gancr. Diolchwyd iddo am ei gyflwyniad clir a chynhwysfawr.

Clwb Croeso

MIKE Birtwhistle, Waungron, Trefenter, oedd y g?r gwadd ym mis Chwefror, a’i bwnc oedd ‘Rhyfelgan’, sef y cerddi Cymraeg a ysgrifennwyd yn ystod y rhyfel byd 1914-18. Roedd y rhain ar gyfer cael eu canu ar donau cyfarwydd ac yn fodd i godi ysbryd y milwyr. Mae ef wedi gwneud gwaith ymchwil manwl i’r pwnc a chyhoeddi llyfr o’i ddarganfyddiadau. Roedd y cerddi o ddiddordeb personol iddo hefyd gan fod eu gyndeidiau wedi ysgrifennu rhai ohonynt.

Cawsom glywed canu nifer ohonynt a’r tonau’n gyfarwydd i ni ond y geiriau’n ddieithr. Cyfieithiadau o ganeuon poblogaidd Saesneg oedd rhai ohonynt a darllenwyd nifer o ddyfyniadau allan o areithiau David Lloyd George yn annog y Cymry i ganu hyd yn oed yng nghanol rhyfel. Darlun anghytbwys o erchylltra’r rhyfel a geir trwy’r caneuon, er mwyn lleddfu rhai o ofnau’r teuluoedd gartref, mae’n debyg.

Merched y Wawr

NOSON allan y mis hwn i Cegin Haul, Abermeurig. ‘Cegin’ oedd y rhan bwysicaf o’r enw gan i ni gael arddangosfa o goginio gan Alwen Carys Llwyd yn un o adeiladau fferm ei rhieni oedd wedi ei addasu a’i foderneiddio ar gyfer y fenter.

Dechreuodd gyda chawl blodfresych wedi eu rhostio, yna darnau o gyw iâr wedi eu ffrio gyda salad o piu lentils, llysiau ffres a chaws feta, yna cig oen gyda llysiau wedi eu coginio yn y saws mwyaf bendigedig. Roedd yr arogl yn codi o hyn oll yn tynnu d?r o’r dannedd a ninnau i gyd yn edrych ymlaen yn awchus am gael blasu pob peth. Yna’r pwdin bara, cnau pecan a saws toffi, a ‘frangipane’ gyda llus. I goroni’r cyfan cafwyd te a choffi a darn o gacen lemwn a bara brith. Trwy’r cyfan roedd Alwen yn ymddangos yn gwbl gartrefol yn symud ymlaen o un peth i’r llall yn ddeheuig a threfnus. Diolchwyd yn fawr iddi am y bwyd blasus a’r holl waith paratoi ymlaen llaw ar ein cyfer.

If you’re a member of a club, society or group, send your news to [email protected]