THE latest community news from Llangwyryfon
Cyngor cymuned
DERBYNIWYD adroddiad yr Archwilydd Allanol a delio gyda’r materion a godwyd ynddo ac mae’r Hysbysiad o Gwblhau’r Archwiliad wedi ei arddangos.
Adroddwyd i’r Clwb Ffermwyr Ifanc wneud y gwaith o dorri cyfran o’r fynwent. Gwelwyd, trwy lun, fod hysbysfwrdd newydd Trefenter yn ei le ger y gysgodfa bws.
Gwnaed ymholiadau pellach yngl?n â chodi arwydd atal cyflymder trwy’r pentre. Llanwyd arolwg ar y defnydd o fecanweithiau digidol ar gyfer cysylltu â rhannu gwybodaeth.
Tynnwyd sylw at y ffaith nad oedd arwydd Trefenter ger Tynddraenen wedi ei ddychwelyd ar ôl i weithwyr y cyngor ei gasglu.
Oherwydd salwch y postfeistr nodwyd nad oedd y fan post wedi dod i’r pentre ers rhai wythnosau. Ail-godwyd mater arwyddion baw c?n a luniwyd gan blant yr ysgol.
Cymdeithas Tabor
AGORWYD tymor y Gymdeithas gan y gadeiryddes, Valerie Tawy. Ar y rhaglen ar gyfer y noson gyntaf roedd datganiad ar y ffliwt gan ferch leol, Amy Yarwood. Ond nid yw brawddeg foel fel yna yn cyfleu, mewn unrhyw fesur, ansawdd yr hyn a gawson ganddi.
Chwaraeodd nifer fawr o ddarnau o wahanol gyfnodau ac arddull gan gynnwys darnau clasurol ac alawon gwerin, a hynny gyda graen.
Roedd yn bleser gwrando arni a rhyfeddu at ei dawn.
Mae Amy yn y 6ed dosbarth yn ysgol Aberaeron ac yn astudio’r ffliwt i safon lefel 8. Mae’n bwriadu mynd ymlaen i astudio’r gyfraith ond gobeithio y bydd yn parhau i gael mwynhad o’i cherddoriaeth.
Gorffennwyd y noson gyda’r wledd arferol, ar y noson gyntaf, o frechdanau a chacennau.
Clwb Croeso
BU Rosemary Starr yn brysur yn paratoi cwis ar ein cyfer ym mis Hydref. Aeth â ni i faes llenyddiaeth, hanes, cerddoriaeth, mathemateg, actorion, gyda chwestiynau oedd yn peri tipyn o bendroni a rhwystredigaeth wrth fethu dod â’r union air i’r cof.
Er gwaethaf yr help gydag ambell lun ar y daflen, allan o’r pedwar tîm dim ond un gafodd farciau uchel, a’r tîm hwnnw oedd Kate, Beryl a Val. Yn garedig iawn, roedd Rosemary wedi gofalu am wobrau hyfryd hefyd i’r enillwyr.
Diolchwyd yn fawr iddi gan Rhiannon Roderick.
Cyhoeddodd ar yr un pryd y byddai hi yn rhoi’r gorau i drefnu rhaglen y clwb ar ôl y cinio Nadolig gan obeithio y gwnâi rhywun arall gymryd drosodd. Rhywbeth i bawb feddwl yn ddwys drosto.
Clwb Garddio
CYNHALIWYD Cyfarfod Blynyddol y Clwb Garddio ar 11 Hydref. Darllenodd y cadeirydd, Maureen Couch raglen y llynedd gan ein hatgoffa o’r digwyddiadau a’r ymateb iddynt.
Cafwyd adroddiad gan y trysorydd ac anogaeth i dalu’r tâl aelodaeth am y flwyddyn sydd i ddod.
Ystyriwyd braslun o raglen y flwyddyn nesaf gan nodi y byddai sgwrs ar gadw gwenyn ar 8 Tachwedd.
Cystadleuaeth y clwb eleni oedd ‘Rhywbeth o fy ngardd’ ac yn ystod y bwyd bu pawb yn pleidleisio dros ei hoff eitem. Yr enillydd oedd Brian Couch gyda basgedaid swmpus o gynnyrch ei ardd.
Merched y Wawr
SGWRS ar ei gwaith gyda’r Groes Goch gawsom ni gan Glenys Tobin ym mis Hydref. Mae ei hadran hi o’r gwaith yn ymwneud â gwasanaeth ‘adref o’r ysbyty’, lle mae’n cefnogi’r rhai sy’n cael anhawster i wneud rhai pethau ar ôl dychwelyd i’w cartrefi.
Gall fod angen siopa drostynt, eu cario i apwyntiad, glanhau’r t?, newid gwely, neu efallai mai cael rhywun i eistedd a siarad a gwrando sydd angen.
Gall y Groes Goch gynnig help mewn meysydd eraill fel hawlio budd-daliadau, neu fathodyn glas, neu ‘pendant alarm’, trwy gydweithio gyda CAB, Age Cymru, a’r adran Gofal a Thrwsio.
Mae siop gan yr elusen yn Aberystwyth a nifer o wirfoddolwyr yn gweithio ym mhob maes, ond roedd yn syndod clywed am yr holl weithgarwch na wyddem amdano ac a ddylai gael mwy o gyhoeddusrwydd.
Mae’r Bwrdd Iechyd yn ariannu’r gwasanaeth ‘adref o’r ysbyty’ ond mae’r elusen yn dibynnu’n drwm ar gyfraniadau ar gyfer pethau eraill.
Gwerthfawrogir yn fawr fod Glenys wedi bod yn barod i ddod atom i lanw bwlch ar fyr rybudd ac agor ein llygaid i’r cymwynasau a wneir yn y dirgel.
If you’re a member of a club, society or group, send your news to [email protected]







Comments
This article has no comments yet. Be the first to leave a comment.