THE latest community news from Llangwyryfon

Cymdeithas Tabor

CYNHALIWYD cinio blynyddol y gymdeithas yng Ngwesty’r Plu, Aberaeron, ar 26 Chwefror.

Cytunwyd eleni i newid bwydlen arferol y cinio trwy fynd am fowlen o gawl cig oen gyda bara a chaws, a phwdin llaeth bara brith.

Fe gawn ni weld beth oedd y ddedfryd ar hyn pan ddaw’n amser trefnu cinio blwyddyn nesaf!

Gwnaeth y cadeirydd, Eira Hopkins, ein hatgoffa o’r cyfarfodydd a gynhaliwyd yn ystod y gaeaf.

Croesawodd y wraig wadd, sef Ann Evans, Maesrhug a chyflwynodd hi ei sylwadau mewn ffordd gartrefol a ffraeth, gyda digon o hiwmor. Soniodd am ei magwraeth yn Cornel Ofan a’r gymdeithas fyddai’n cwrdd yno ar bob awr o’r nos, ac am rai o gymeriadau cofiadwy’r ardal.

Yna cafwyd gair gan lywydd y gymdeithas, Geraint Lewis, ac roedd am annog pawb i gadw’r hen enw gwreiddiol, Llangwrddon, yn fyw ar lafar.

Merched y Wawr

PETHAU Olyv oedd teitl y noson ym mis Mawrth ac roedd yn bleser gweld yr holl ‘bethau’ a ddaethpwyd i’w harddangos.

Roedd Olive ac Yvonne, y ddwy wraig sy’n rhedeg y busnes, yn amlwg yn ffrindiau da ac yn deall ei gilydd i’r dim ac yn llwyddo i gadw pawb i chwerthin gyda’u straeon.

Yn ogystal â chario eu nwyddau i gyfarfodydd fel hyn, maent hefyd yn agor stondin mewn sioeau a ffeiriau.

Manteisiodd sawl aelod ar y cyfle i brynu bag newydd neu sgarff liwgar neu eitem o emwaith.

Roedd yn agoriad llygad i weld y ffordd drefnus oedd gan y merched i bacio’r cyfan oedd yn weddill yn ôl i nifer o fagiau mawr ar ddiwedd y noson.

Roedd aelodau o gangen Bronant a Mynach wedi eu gwahodd i ymuno â ni, a mwynhaodd pawb y lluniaeth a baratowyd gan aelodau’r gangen.

Clwb Croeso

BACHGEN a fagwyd yn y pentre ddaeth i siarad â’r clwb y tro hwn, sef Aled Rees, gynt o Pencwm Uchaf.

Mae’n adnabyddus nawr am redeg Teithiau Tango, Cambria Tours ac yn un o berchnogion Siop y Pethe.

Cawsom hanes sut y daeth i ddechrau gweithio yn un o labordai Ysbyty Bronglais a pharhau i astudio nes ennill gradd Meistr.

Yna cyfarfu â’i wraig, merch o’r Ariannin a hynny’n esgor ar sefydlu Teithiau Tango er mwyn cadw cysylltiad â’r wlad.

Datblygiadau pellach oedd Cambria Tours a rhan-berchnogaeth o Siop y Pethe.

Ond does dim diwedd ar ei syniadau, a’r diweddaraf yw ‘pod’ gwyliau moethus.

Edrychwn ymlaen at weld y rhain yn ymddangos fel madarch mewn llecynnau cysgodol.

Clwb Garddio

CYNHALIWYD y cwis blynyddol ar 9 Mawrth.

Roedd pedwar tîm yn cystadlu ac Ifor Morgan y cwis feistr wedi paratoi cwestiynau amrywiol eleni eto.

Mae paratoi rhywbeth fel hyn yn golygu oriau lawer o waith manwl ac ni ellid diolch digon i Ifor am wneud hyn ar gyfer nifer o gymdeithasau ac achosion da ar hyd a lled y sir.

Yr enillwyr eleni oedd tîm Kate, Stephanie, Helen a Val.

Mae croeso i unrhyw un ymuno yn y cwis.

Does dim rhaid bod yn enillydd i fedru mwynhau’r noson.

If you’re a member of a club, society or group, send your news to [email protected]