THE latest community news from Llangwyryfon

Merched y Wawr

YMWELIAD â Libanus, Borth, am bryd o fwyd oedd ar y rhaglen ar gyfer mis Ebrill.

Mae’n rhaid rhyfeddu a chanmol yr addasiad chwaethus o hen gapel bob tro yr awn yno.

Cafwyd croeso cynnes a phryd da o fwyd.

Dim ffilm y tro hwn ond efallai y daw cyfle’r flwyddyn nesaf.

Yna ymunodd Julie Taylor o Dderwenlas â ni i sôn am ei hantur yn dringo yn yr Himalayas er mwyn codi arian i elusen Marie Curie.

Bu hi a’i ffrindiau wrthi am fisoedd ymlaen llaw yn trefnu gweithgareddau a gofyn cymwynasau.

Dangosodd nifer o luniau o’r ardal a’r daith a’r criw oedd gyda hi a’r golygfeydd o’r mynyddoedd.

Synnwyd ni gan y pecyn cynhwysfawr roedd yn rhaid iddi ei gario, a hynny ddim ond y pethau cwbl angenrheidiol.

Roedd yn uchel ei chlod o’r brodorion lleol (a’r asynnod) oedd yn cario popeth arall ac yn paratoi eu bwyd ac yn codi a dymchwel eu gwersyll bob nos a bore.

Llongyfarchiadau i Julie a’i ffrindiau am gwblhau’r sialens a llwyddo i godi dros £16,000.

Clwb Garddio

MAE Michael Berry, o Lanarth, a ddaeth i gyfarfod mis Ebrill, yn ddyn diddorol, gwybodus iawn sydd â ffordd unigryw o arddio.

Dechreuodd trwy ddweud ei fod yn garddio yn ôl dylanwad y lleuad ac yn dilyn calendar sydd yn nodi’r diwrnodau gorau am dyfiant mewn blodau neu ddail neu wreiddiau ar gyfer pob mis.

Roedd ei luniau trawiadol o’i ardd yn dangos fod y system yn gweithio iddo ef.

Mae’n plannu pob peth drwyddi draw trwy ei gilydd, a’r lluniau niferus sydd ganddo, nid cynllun a nodyn ar bapur, sy’n ei atgoffa o ble y plannwyd pethau y llynedd.

Mae’n credu mewn aberthu rhai planhigion a’u defnyddio i ddenu pryfetach sy’n bla er mwyn arbed crop mwy gwerthfawr.

Roedd yn barod iawn i rannu ei wybodaeth wyddonol gynhwysfawr, ac i’n haddysgu o’i brofiadau yn ei ardd ei hun, ac i ateb cwestiynau.

Gobeithio y daw yn ôl atom eto’r flwyddyn nesaf, a’r tro hwnnw bydd yn rhaid cymryd nodiadau!

If you’re a member of a club, society or group, send your news to [email protected]