THE latest community news from around Llangybi.
Hamdden
ON A beautiful summer’s day in early June members and friends went on an outing to Pembrokeshire.
The first stop was for elevenses at the Shire Horse Centre just outisde Cardigan, where a great welcome awaited us and a very refreshing cup of tea.
It is an ideal place for a short stay for a look around and to enjoy the various items which are on display and the scenery.
Onwards then to Haverfordwest for a short shopping spree before visiting a chocolate factory where friendly employees greeted the group.
A brief history of the factory was given and explanations of how chocolate is made and its origins.
A meal had been prearranged at the Tannery in Carmarthen. There were several raffle prizes. A warm vote of thanks was proposed by Janet Farrow to everyone who had contributed is any way to make the outing so successful.
The next meeting will be on 7 October when Michael Morgan will enlighten the meeting with the benefits of, and how to use, a defibrillator. New members are always welcome.
Merched y Wawr y Dderi
BU ein cyfarfod ar 15 Mehefin pryd yr ymwelwyd â gardd Ysgoldwy Cwrt yn Llangeitho ar brynhawn glawiog ofnadwy.
Yno, cawsom groeso bendigedig ac amser i grwydro’r ardd fendigedig yn y glaw mawr gan werthfawrogi y gwaith a’r ymdrech i lunio’r ardd.
Gwirfoddolwyr sydd yn llafurio yma â’r elw yn mynd tuag achosion meddygol dyngarol.
Cawsom de blasus hefyd cyn dychwelyd adref. Rhoddwyd y raffl gan Mary Jones ac fe’i henillwyd gan Deborah a Rosalie. Talwyd y diolchiadau gan Gwyneth Jones.
Bydd ein cyfarfod nesaf yn Eglwys Llanwennog ar 21 Medi pryd y cawn ein tywys o amgylch yr adeilad a chael ychydig o hanes yr achos. Bydd te wedi ei baratoi ar ein chyfer cyn dychwelyd am adref.
Maesyffynnon
AR NOS Sul, 26 Mehefin, cynhaliwyd y cyngerdd blynyddol.
Cawsom wledd o ganu gan gôr y gêm, sef côr y Llyfrgell Genedlaethol yn Aberystwyth ac eitemau unigol gan aelodau’r côr amrywiaeth hyfryd a chanu safonol iawn, unawd a deuawd offerynnol hynod o gyffrous.
Cadeirydd y noson oedd John Davies o Lambed, ond o Langybi yn wreiddiol, ac fe gyfranodd yn hael at gyllid capel ei ieuenctid.
Rhoddwyd pleidlais o ddiolch gan Mair Spate i gadeirydd y côr, Mair Morgan, am drefnu’r noson ac i Sally Davies am lywyddu a threfnu’r blodau ac i’r gynulleidfa am eu presenoldeb a’u cefnogaeth.
Roedd yn noson fendigedig er gwaethaf y glaw ond ni amharodd hynny ddim ar yr adloniant na’r mwynhad.
If you’re a member of a club, society or group, send your news to [email protected]







Comments
This article has no comments yet. Be the first to leave a comment.