THE latest community news from Llangybi

Merched y Wawr y Dderi

EIN is-lywydd Deborah Jones fu’n cyflwyno ein gwr gwadd, sef Geraint Morgan o Fwlchllan.

Mae Mr Morgan yn wr prysur iawn a chanddo lawer o ddiddordebau a swyddi.

Mae ynghlwm â Ffermwyr Ifanc Llangeitho, Clwb Rygbi Tregaron a’r gymuned.

Cawsom noson ddiddorol a hamddenol yn ei gwmni pan fu’n sôn am ei fagwraeth a dylanwadau’r gymdogaeth ar ei fywyd, ac am ei waith fel fferyllydd yn Ysbyty Bronglais ers blynyddoedd.

Rhoddwyd pleidlais o ddiolch iddo am ein goleuo ar wahanol o fathau o gyffuriau ac am ei frwdfrydedd dros lawer o fudiadau, gan Ann Davies.

Enillwyd y raffl gan Mary Jones.

Dymunwyd yn dda i’r aelodau oedd yn sâl a llongyfarchwyd Mary a Ken Jones ar ddathlu eu Priodas Aur.

Cafwyd lluniaeth ysgafn wedi’u rhoddi gan Mary Jones a Mair Spate.

Bydd y cyfarfod nesaf yn Ysgol y Dderi am 7yh ar 15 Tachwedd.

Hamdden

A VERY interesting and historical afternoon was enjoyed in the company of the guest speaker, Eirwen James, who spoke of the late Derry Ormond Estate in Betws Bledrws.

It was a vast estate at one time with land in Bronwydd, Llandeilo and nearer to home in Llanddewi Brefi, with many cottages to house the estate workers, with included many craftsmen, horticulturist and domestic workers.

Miss James was thanked by the Rev Elizabeth Evans. The tea hostesses were Gwen Lewis and Mair Spate.

The next meeting will be on Friday, 10 November, when Rhonwen Thomas is expected to give a cookery demonstration.

If you’re a member of a club, society or group, send your news to [email protected]