THE latest community news from Llaniestyn
Merched y Wawr
I ORFFEN am eleni aeth criw o aelodau Merched y Wawr i Pysgoty Eisteddfa yn Pentrefelin i weld y llynnoedd a cael chlywed am hanes y busnes.
Roedd pawb o’r farn ei fod yn le bendigedig i bysgota. I ddilyn cafwyd swper bendigedig yn caffi Eisteddfa.
Aeth criw o aelodau Merched y Wawr hefyd i’r Parc yn Y Bala ddathlu’r Aur. Cafwyd cyfle i weld yr arddangosfa a’r murlun, a chael sgwrs a phaned a dathlu gydag aelodau eraill o’r Merched y Wawr. Roedd pawb wedi mwynhau’r ddau drip.
Llongyfarchiadau i Caroline Dovey ar ddod yn gydradd drydydd drwy Gymru ar ysgrifennu erthygl papur newydd i ddysgwyr ac i dîm Bowlio Deg Merched y Wawr, Llaniestyn a ddaeth yn ail drwy gogledd yn ddiweddar; aelodau’r tim oedd: Nia Bod Hyfryd, Nia Ty Newydd, Nia Madryn Isaf, Carys Cae Ceuad, Marnel Ty’n Simdde a Mair Gwelfor.
Helfa Drysor – Ganolfan
CAFWYD Helfa Drysor ddifyr o gwmpas Garn Fadryn, Madrun a Llaniestyn yn ddiweddar.
Enillwyr oedd Carys Cae Ceuad, Marnel Ty’n Simdde a’r genod.
Enillwyd y raffl gan Gwen Llain a Gwilym Ty Newydd.
Roedd lluniaeth ysgafn wedi’i drefnu gan aelodau’r pwyllgor. Diolch i Helen ac Ian Dwylan am e drefnu.
Ras Peli a Noson Goffi
BYDD Ras Peli a Noson Goffi yn Ganolfan nos Wener, 8 Medi, am 6yh.
Croeso i bawb.
If you’re a member of a club, society or group, send your news to [email protected]






Comments
This article has no comments yet. Be the first to leave a comment.