THE latest community news from Llanilar

Cymanfa Ganu Dosbarth Tabor

Ar ddydd Sul braf o wanwyn, sef 20 Mai, cynhaliwyd y Gymanfa yn Gosen, Rhydyfelin.

Yr arweinyddes wadd eleni oedd Catrin Hughes, Llanelli.

Parch Nicholas Bee gymerodd at lywyddu oedfa’r prynhawn, a hynny ar fyr rybudd gan fod Rhiannon Salisbury yn methu dod oherwydd anhwylder.

Estynnodd y Parch Bee groeso cynnes i bawb a galwodd ar dair o ferched Ysgol Sul Tabor i ddechrau’r oedfa sef Nia Lewis, Beca Lewis a Megan Davies.

Gwnaeth y merched eu gwaith yn ardderchog.

Estynnodd y gweinidog groeso i’r arweinyddes a chyflwyno’r oedfa fawl i’w gofal.

Yn ei ffordd unigryw anwylodd Catrin at y plant a chafodd o’u gorau.

Mwynhaodd y plant anerchiad y Gweinidog ar y Pentecost.

Anerchiad pwrpasol iawn a hithau’n Sul y Pentecost.

Organyddes y prynhawn oedd Nia Jones, Gosen.

Gwahoddwyd pawb i’r Festri i gael gwledd o fwyd wedi ei baratoi gan wragedd Gosen.

Am 6yh cafwyd Cymanfa yr Oedolion o dan lywyddiaeth y gweinidog.

Cafwyd anerchiad yn llawn atgofion am Gapel Gosen gan Peter Rees, Llygad y fro, Rhydyfelin.

Organyddes yr hwyr oedd Nesta Parry Edwards, Gosen.

Talwyd gair o werthfawrogiad gan Susan Jones, Tabor.

Gwerthfawrogwyd yn fawr arweinyddion y rihyrsals sef Beti Wyn Emanuel a Judith Jones, ynghyd â’r organyddion.

Ffrwyth llafur y rihyrsals sy’n gwneud Cymanfa lwyddiannus.

Diolchwyd i Catrin Hughes am ei harweiniad medrus yn y ddwy oedfa, i’r llywyddion sef y Parch Bee a Peter Rees, i’r dair a ddechreuodd oedfa’r prynhawn ac Judith Jones a Beryl Jones am baratoi’r plant.

Diolchwyd hefyd i Jane Hughes (mam Catrin) am ddod a rhai o’i disgyblion canu i chwyddo nifer y plant; i wragedd Gosen am baratoi gwledd o fwyd i bawb rhwng y ddwy oedfa, am y blodau a oedd yn harddu’r cysegr; ac i’r cyfeillion o gapeli a’r dosbarthiadau eraill a ddaeth i gynorthwyo, ac felly sicrhau Cymanfa ardderchog.

Casglyddion y ddwy oedfa oedd Brenda Baigent a Brinley Davies.

Traddodwyd y fendith yn y ddwy oedfa gan y Parch Bee.

WI

MAY began with an evening walk on a lovely spring evening to follow the Tree Trail in Aberystwyth identifying trees as they went along.

Half the group started at Plas Crug Avenue and the other half took a longer route and came back to Plas Crug.

On 12 May, several members, family and friends went on a trip to Liverpool to see the ‘Terracotta Warriors’ Exhibition at the World Museum.

Richard Ireland was our guest speaker on 16 May, and the title of his talk was Wooden Horse and Dead Vermin.

The tradition was first recorded in Wales in 1834 of shaming people or families when the community did not like what was going on but there were records of it in England prior to this. Judy Lile thanked Richard Ireland.

The competition of a Healthy snack was won by Hazel Rimmer and Barbara Awty won the raffle.

The following week members visited Ceredigion Museum in Aberystwyth.

At our meeting on 30 May, Judy Lile and Barbara Awty were congratulated on coming third and Highly Commended respectively for their Butterfly Cakes at the Spring Rally on 26 May.

A discussion was held led by Hazel Rimmer our President on the Resolution being put forward at the

National AGM in June.

Maureen Edwards thanked Hazel. The raffle was won by Eirlys Jones.

If you’re a member of a club, society or group, send your news to [email protected]