THE latest community news from Llanllwchaearn.

Bwrdd Hanes

SIÔN Cwilt, Siani Pob Man, Sant Llwchaearn a’r Brenin Ina – dyna rhai o’r enwogion sydd â’u hanes i’w gweld ar fwrdd hanes newydd ym mhentref Cross Inn.

Cyngor Cymuned Llanllwchaearn sydd wedi trefnu gosod y bwrdd hanes; a hynny mewn ardal gymdeithasol newydd yng nghanol y pentref.

Mae’r Cyngor Cymuned wedi cymryd les ar y llain las yng nghanol y pentref gan y Cyngor Sir, gan osod palmant newydd, seddau i eistedd a polyn fflag yno.

Mae man chwarae i blant gerllaw hefyd ac mae hwnnw wedi cael ei adnewyddu yn rhannol, gyda mwy o waith adfer ar y gweill eto.

Ond y bwrdd hanes yw canolbwynt y datblygiad. “Dyw ardal Llanllwchaearn ddim yn cael y gydnabyddiaeth y dylai o ran ei hanes a’i threftadaeth”, meddai’r Cyng Gareth Ioan, cadeirydd y Cyngor Cymuned.

“Mae yna gyfoeth o hanes i ni ei werthfawrogi yma ond i ni ei amlygu a’i ddathlu. Er enghraifft, faint sy’n gwybod mai Llanllwchaearn yw’r unig ardal yng Nghymru sydd â dau adeilad yn sefyll yn Sain Ffagan?” Mae hanes yr adeiladau hynny i’w gweld ar y bwrdd hanes hefyd – sef siop teiliwr David Thomas, Cross Inn, a Melin Pontbrengrwca.Agorwyd yr ardal gyhoeddus yn swyddogol ar Sadwrn, 29 Hydref, gan un o hoelion wyth yr ardal, Gwyneth Mai Thomas.

Bu Gwyneth Mai yn brifathrawes yn ysgol Cross Inn am amser arwyddocaol ac mae ei chyfraniad i ddiwylliant Cymraeg yr ardal yn amhrisiadwy drwy ei hymwneud â Chapel Maen-y-groes, Y Gambo, y Gymdeithas Ddiwylliadol a llawer mwy.

Roedd y cyngor yn falch iawn o gael cyfle i nodi gwerthfawrogiad yr ardalwyr o’u gwasanaeth egnïol dros y blynyddoedd.

“Dwi’n gobeithio y bydd y gy-muned gyfan yn gwneud defnydd o’r ardal gymunedol hon ac yn dar-llen a chofio’r hanes sydd wedi ei gofnodi ar y bwrdd gwybodaeth”, meddai Gwyneth. Cafwyd nawdd ariannol at y cynllun gan gynllun yr Undeb Ewropeaidd, Cyfoeth y Cardi, gan Gyngor Sir Ceredigion a chan y Cyngor Cymuned ei hun.

Y Cyng Gareth Ioan fu’n bennaf gyfrifol am lywio’r prosiect i’r lan ond diolchodd i Cyng Meleri Richards am ei gwaith gyda’r ceisiadau ariannol ac i Shan Gwyn, Clerc y Cyngor, am ei gwaith cadarn yn y cefndir. Cynlluniwyd y bwrdd hanes gan Andrew Gaunt o Frynhoffnant a chafodd ei argraffu gan Evnatech, Llanarth. Crefftwr lleol, Derwyn Davies, fu’n gyfrifol am y gwaith cerrig ac mae diolch i Geraint Lloyd am osod y meinciau.

“Mae’r cyngor yn hyderu y bydd y bwrdd hanes a’r palmant cymunedol yn gaffaeliad i’r ardalwyr hen a newydd,” meddai Gareth Ioan. “O barchu ein gorffennol fe barchwn ein dyfodol hefyd”.

If you’re a member of a club, society or group, send your news to [email protected]