THE latest community news from Llanybydder
Eglwys San Pedr
CYNHALIWYD Gwasanaeth Diolchgarwch ar nos Fercher, 26 Medi, o dan arweiniad y Deon Ardal Canon Philip Wyn Davies, Tregaron (ef sydd â gofal Gweinyddol am Eglwys Llanybydder ar hyn o bryd a’r Parch Bill Fillery sydd â gofal bugeiliol).
Soniodd am y pwysigrwydd o ddatgan diolch i’r rai hynny sy’n ein helpu ac am yr hyn sydd gennym.
Cyfeiriodd at hanes yr Iesu’n gwella’r 10 gwahanglwyfus; dim ond un a ddychwelodd a dweud diolch.
Mae dweud diolch yn dangos gwerthfawrogiad ac yn cyfoethogi bywyd yr un sy’n rhoi ac yn derbyn.
Mwynhewyd cymdeithas bellach ar ôl y gwasanaeth; paratowyd byrbryd o dan gyfarwyddyd warden yr eglwys, Susan Evans.
Casglwyd bwyd ar gyfer Banc Bwyd Llanbedr Pont Steffan.
Taith gerdded
DIOLCH i bawb sydd wedi noddi’r taith gerdded.
Casglwyd (cyn belled) £1,350 at goffrau’r eglwys.
Diolchwyd i Heather Jones am gasglu £1,030.
Dydd Sul y Cofio
GOBEITHIR trefnu gwasanaeth yn yr eglwys ar Ddydd Sul y Cofio, 11 Tachwedd, am 10am gan fod 2018 yn nodi terfyn y Rhyfel Byd Cyntaf.
If you’re a member of a club, society or group, send your news to [email protected]






.jpeg?width=209&height=140&crop=209:145,smart&quality=75)
Comments
This article has no comments yet. Be the first to leave a comment.