THE latest community news from Llanybydder

Diabetes UK Cymru

THE Llanybydder Branch of Diabetes UK Cymru will be holding a meeting at Aberduar Chapel Vestry at 7.30pm on 12 March.

Diabetes Community Nurses Anwen Jones and Helen Saunders will be guest speakers at the meeting.

Eglwys

CYNHALIWYD y Pwyllgor Eglwys Blwyfol ar nos Lun, 11 Chwefror. Yn bresennol oedd y Canon Parch Philip Wyn Davies, Tregaron (cadeirydd), Susan Evans (warden yr eglwys), Avril Jones (trysorydd), Heather Jones, Ann Smith, ac Eleri Thomas (ysgrifenyddes).

Arolwg

DISGWYLIR Arolwg Quinquennial yn ystod yr wythnosau nesaf a fydd yn edrych ar gyflwr yr adeilad i gynnwys to’r festri a tho’r t?r. Mae’r eglwys wedi derbyn statws adeilad rhestredig Gradd 2.

Clwb 100

HOFFAI’R clwb ddiolch yn fawr i bawb sydd wedi cefnogi’r fenter unwaith yn rhagor eleni. Mae enwau’r enillwyr wedi’u harddangos ar hysbysfwrdd yr eglwys ac ar ffenest siop Compton gynt.

Diolchwyd hefyd i Susan Evans ac Eurwyn Davies am eu hymdrech.

Cwrs ar gyfer y Garawys

YSTYRIWYD trefnu cwrs ar gyfer cyfnod y Garawys i’r pedair Eglwys yn y Plwyf.

Festri’r Pasg

CYNHELIR ar nos Fercher, 3 Ebrill, am 5yh yn festri’r eglwys. Croeso cynnes i bawb.

Does dim ficer parhaol ar gynnig ar gyfer Eglwys Llanybydder ar hyn o bryd. Gobeithir cyflwyno trefniant parhaol ym mis Medi. Diolch i’r offeiradau lleng a’r rhai wedi ymddeol am eu gwasanaeth.

Dymunir yn dda i’r rai hynny sydd wedi derbyn triniaeth yn yr ysbyty’n ddiweddar sef warden y ficer, Valerie Wood; hefyd heb fod ymhell yn ôl, aelod sydd wedi rhoi nifer o flynyddoedd o wasanaeth i’r eglwys sef Jean Davies, Hafod-yGân, a John Byron Thomas, Maesllan, Llanbedr Pont Steffan (gynt o’r Hafod) a dderbyniodd llawdriniaeth bypass y galon triphlyg.

Hefyd cofir am unigolion a gollodd anwyliaid yn ddiweddar sef y teulu Morgan ac eraill. Dymunir yn dda i Christine Rogers a’i chymdogion a orfodwyd i adael eu cartrefi dros-dro ar Deras yr Orsaf oherwydd y llifogydd.

Hefyd aelodau sydd heb fod yn medru addoli gennym sef Eirwen Prosser ac unrhyw un arall sy’n gysylltiedig â’r eglwys sy’n anhwylus. Mae gofal bugeiliol ar gynnig gan y Parch Bill Fillery.

Blin oedd aelodau i glywed bod y Parch William Strange yn ymddeol ar ddiwedd Mai. Diolchir iddo am ei wasanaeth di-flino.

Gwasanaeth y Gair

STORIAU’R Iesu, sef Damhegion oedd ffocws Gwasanaeth y Gair diweddar gan fyfyrio ar golli a chael yn ôl sef: Y Mab Afradlon; Y Ddafad Golledig a’r Darn o arian a aeth ar goll.

Mae’r Tad bob amser yn barod i’n derbyn yn ôl â llawenydd mawr.

Dywedwyd bod ein bywydau unigol yn stori a ble bynnag yr ydym yn ein stori – ar gopa’r mynydd neu’n y dyffryn, nid ydym ar ben ein hun.

If you’re a member of a club, society or group, send your news to [email protected]